Ynglŷn â'r Timau Bro
Mae'r Timau Bro yn gallu cynnwys staff yr heddlu a staff ein partner asiantaethau, gan ddibynnu ar anghenion y gymuned leol.
Gall tîm nodweddiadol gynnwys Arolygydd, Sarjant, Heddweision, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSOs), Cwnstabliaid Gwirfoddol a gwirfoddolwyr sifil. Gall y Partneriaid gynnwys cynghorwyr lleol, wardeniaid, rheolwyr bro, rheolwyr tai, gweithwyr ieuenctid, cwmnïau diogelwch preifat, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth a mudiadau gwirfoddol eraill o fewn y gymuned. Gall hefyd gynnwys unigolyn sydd wedi cael ei achredu dan Gynllun Achredu Diogelwch Cymunedol, felly gellir rhoi pwerau cyfyngedig i berson sydd ganddo rôl diogelwch yn y gymuned.
Bydd aelodau'r tîm yn weladwy, yn hygyrch ac yn adnabyddus yn y gymuned leol, a byddant hefyd yn gyfarwydd â'u hardaloedd. Yn ogystal â defnyddio eu pwerau i ddelio â throsedd ac anhrefn, byddant yn gweithio gyda'r partneriaid i ddatrys y problemau hynny sydd bwysicaf i'r bobl leol.
Hafan