Newyddion ac Apeliadau
Cŵn Strae ar Ystâd y Mount yn Aberdaugleddau 02/09/10
Yn ystod y misoedd diweddaf derbyniwyd nifer o gwynion ynghylch cŵn strae ar Ystâd y Mount yn Aberdaugleddau.
Heddlu’n Parhau i Ymchwilio i Ddamwain Angheuol ger Ponterwyd, Ceredigion 01/09/10
Mae’r Heddlu’n dal i ymchwilio i ddamwain ffordd angheuol ar yr A44 ym Mhonterwyd, Aberystwyth ar yr 31ain Awst 2010.
Mae Gorsaf Heddlu Newydd Aberteifi Wedi Cyrraedd 01/09/10
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu agoriad gorsaf heddlu newydd ecogyfeillgar o’r radd flaenaf yn Aberteifi.
Byrgleriaethau o Dafarndai yn Nhrefaldwyn 31/08/10
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’r fenyw yn y lluniau CCTV oherwydd mae’n bosib bod ganddi wybodaeth a fyddai o gymorth i ymchwiliad yr heddlu.
Damwain Ffordd Angheuol ar yr A44 ym Mhonterwyd ger Aberystwyth 31/08/10
Am oddeutu 12.24 bore heddiw ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiad am ddamwain ffordd yn cynnwys un cerbyd ar yr A44 ym Mhonterwyd ger Aberystwyth.
Difrod Troseddol ar Draeth Cei Newydd 27/08/10
Mae Heddlu yng Nghei Newydd yn gynyddol bryderus ynghylch diogelwch y cyhoedd yn dilyn digwyddiadau lle y daethpwyd o hyd i nifer helaeth o ddarnau mân o wydr ar ac o gwmpas ardal y traeth.
Lladrad Ger yr Orsaf Drên yn Y Drenewydd 27/08/10
Rhywbryd rhwng 1.30 a 2.00 ar brynhawn dydd Mercher y 25ain o Awst 2010 wynebodd gŵr 32 mlwydd oed ddyn â chyllell gyferbyn â’r orsaf drên yn Y Drenewydd.
Heddlu’n Rhybuddio Eto am Dwyll ‘Boiler Room’ 26/08/10
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio aelodau’r cyhoedd eto ynghylch peryglon twyll ‘boiler room’.
Gwobr am Wybodaeth: Lladrad yn Noc Penfro 26/08/10
Rhwng 13:55 a 14:00 ar ddydd Mawrth Gorffennaf 13 2010, gorfododd dau ddyn eu ffordd i mewn i gartref gwraig fregus 70 mlwydd oedd ar y Stryd Fawr yn Noc Penfro, gan ddwyn sŵn o arian.
Digwyddiad Mewn Eiddo ar Heol Felinfoel, Llanelli 26/08/10
Mae’r Heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad a gymerodd lle rhwng 10.30 a 11.30 y bore hwn mewn eiddo ar Heol Felinfoel, Llanelli.
Byrgleriaeth yn Siop Charlie’s, Y Trallwng 26/08/10
Hysbyswyd yr Heddlu gan gwmni diogelwch am oddeutu 12.25 y bore hwn am fyrgleriaeth barhaus yn siop Charlie’s, Coed y Dinas, Y Trallwng.
Ymgais i Ladrata ym Manc Natwest, Machynlleth 25/08/10
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad ym manc Natwest, Heol Maengwyn, Machynlleth am oddeutu 12:55 ar 23/8/10. Aeth dyn i mewn i’r banc, mynnodd arian, ac roedd yn fygythiol tuag at y staff.
Gwraig a Phlentyn yn Cael eu Hanafu ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor House 25/08/10
Mae Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Benfro yn ymchwilio i ddigwyddiad ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor House, St Florence, am oddeutu 11:30 y bore hwn.
Lladrad Cerflun Brunel o Farina Neyland 23/08/10
Mae Heddlu yn Aberdaugleddau yn ymchwilio i ladrad cerflun efydd o Izambard Kingdom Brunel o’i blinth yng Nghei Brunel, Neyland, Sir Benfro. Credir iddo ddigwydd rhywbryd dros nos o nos Sul yr 22ain o Awst i oriau man y bore ar ddydd Llun y 23ain o Awst.
McDonald's Lleol yn Cefnogi Ymgyrch i Atal Marwolaethau Disynnwyr ar Ein Ffyrdd 23/08/10
Mae un ar hugain o fwytai Mc Donald's ar draws Cymru'n cefnogi ymgyrch i addysgu pobl ifanc am yrru'n gyfrifol Heddiw mae Ron Mounsey, deiliad masnachfraint lleol McDonald's yn cyhoeddi ei gefnogaeth i'r ymgyrch sy'n addysgu pobl ifanc yng Nghymru ynghylch peryglon a chanlyniadau gyrru gwael.
Heddlu Dyfed Powys yn Derbyn Adroddiad Da Mewn Perthynas â’u Cynllun Iaith Gymraeg 23/08/10
Dylid llongyfarch Heddlu Dyfed Powys ar eu hymdrechion i annog y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle, eu hymdrech barhaus i edrych am ffyrdd o wella, a’r gwaith blaengar yn y maes hwn y maent yn ymgymryd ag ef - yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg mewn ymateb i Adroddiad Monitro Blynyddol Heddlu Dyfed Powys 2009/10.
Mega Mela 10/08/10
Aeth Heddlu Dyfed-Powys ynghyd â lluoedd eraill yng Nghymru i “Mega Mela”, digwyddiad amlddiwylliannol yng Nghaerdydd, ar ddydd Sul yr 8fed o Awst 2010.
Llwyddiant Plismona yn y Sioe Frenhinol: Gostyngiad o 58% Mewn Troseddau 28/07/10
Diolch i blismona bro effeithiol, mwynhawyd Sioe Frenhinol Cymru 2010 gan dros 225,000 o ymwelwyr dros bedwar diwrnod.
Cadetiaid yn Cwrdd ag Uwch Siryf Powys 28/07/10
Croesawodd Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yr Uwch Siryf newydd Jenny Thomas i babell Heddlu Dyfed-Powys yn y Sioe Frenhinol eleni.
Heddlu Aberhonddu yn Mynd i’r Afael ag Yfed Dan Oed 26/07/10
Unodd Heddlu Dyfed-Powys ag asiantaethau partner Canolfannau Cyffuriau ac Alcohol Powys a Signpost i gymryd rhan mewn menter i fynd i’r afael ag yfed dan oed.
Gorsaf Heddlu Llanelwedd yn Ailagor Mewn Pryd i’r Sioe Frenhinol 26/07/10
Fel rhan o’i ymroddiad i ddiogelu’r cyhoedd mae’n gwasanaethu, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ailagor Gorsaf Heddlu Llanelwedd ar ôl iddo gael ei ailwampio yn ddiweddar.
Prif Gwnstabl yn Croesawu Ffigyrau Perfformiad – Ond yn Rhybuddio 15/07/10
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi disgrifio’r ffigyrau perfformiad diweddaraf ar gyfer yr heddlu fel llwyddiant, ond mae e wedi rhybuddio bod amseroedd caled i ddod.
Nofio yn yr Afon Gwy 15/07/10
Wrth i’r haf agosáu dymuna Heddlu Dyfed-Powys a’i bartner-asiantaethau atgoffa aelodau’r cyhoedd o’r peryglon o nofio yn yr afon Gwy - yn enwedig yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.
Mis Hanes Sipsiwn Roma a Theithwyr yng Nghymru 06/07/10
Fel rhan o’i ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned aeth cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys i Ddigwyddiad yn ymwneud â hanes y Sipsiwn Roma a Theithwyr yng Nghymru.
Powys Hyderus 01/07/10
Fel rhan o’i ymroddiad i sicrhau fod gan bawb yr hawl i fyw heb ofni am eu diogelwch eu hunain na diogelwch pobl eraill, trefnodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys Cyd-seminar Hyder Cyhoeddus ar gyfer yr Heddlu a’i Bartneriaid.
Heddlu Dyfed-Powys yn Codi £16,000 i Elusennau 29/06/10
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cynnal ei ail Her WAAT 4 (Tîm Ambiwlans Awyr Cymru) ar y 19eg o Fehefin gan godi dros £16,000 ar gyfer nifer o elusennau.
Troseddwyr yn Yalu Am Brosiect Rygbi Ieuenctid 28/06/10
Nid pob dydd fyddai rhywun yn dweud fod trosedd yn talu - ond diolch i Gronfa Ysgogi Heddlu Dyfed-Powys, mae Clwb Rygbi Ieuenctid Llanfair-ym-muallt wedi derbyn £620.
Cerrig Beddau yn Cael Eu Fandaleiddio yn Llambed 22/06/10
Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i nifer o gerrig beddau gael eu fandaleiddio ym mynwent Eglwys San Pedr, Llambed.
Dyn ar Goll - Aberystwyth 22/06/10
Mae’r heddlu’n bryderus ynghylch lles John Jones, gŵr 64 oed o Aberystwyth.
Damwain Traffig y Ffyrdd Angheuol ar yr A495 22/06/10
“Mae’r heddlu’n ymchwilio i ddamwain traffig y ffordd a ddigwyddodd am 4.15pm ar ddydd Gwener y 18fed o fis Mehefin ar yr A495 rhwng Meifod a Llansantffraid.
Balchder Abertawe, 26ain Mehefin 2010 21/06/10
Yn sgil ei gysylltiad agos â’r Heddluoedd Cymreig eraill, bydd Heddlu Dyfed Powys yn bresennol eleni yn nigwyddiad ‘Balchder Abertawe’ a gynhelir ar ddydd Sadwrn y 26ain Mehefin 2010 y Mharc Singleton, Abertawe.
Hafan