Prawf Prynu Alcohol Tanoed yn Noc Penfro a Dinbych-y-pysgod
Mae pobl ifanc wedi bod yn ceisio prynu alcohol o eiddo yn Noc Penfro fel rhan o ymgyrch partneriaeth.
Nos Wener y 13eg o Dachwedd cynhaliwyd Ymgyrch Prawf Prynu wedi’i arwain gan Gudd-wybodaeth yn Noc Penfro a Dinbych-y-pysgod gyda dwy ferch 15 oed.
O’r pedwar eiddo a ymwelwyd â hwy dim ond un wnaeth gwerthu alcohol i’r merched. Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig o £80 i’r aelod o staff y bar a bydd swyddogion trwyddedu’n edrych ar yr eiddo.
Meddai’r Sarjant Fintan Godkin: "Yfed tanoed sy’n achosi llawer o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hardal a byddwn yn parhau i sicrhau bod eiddo trwyddedig yn gyfrifol.”
Hafan