Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2009
  4. Tachwedd
  5. Cerbyd Newydd i Helpu Ymladd Cam-drin Domestig

Cerbyd Newydd i Helpu Ymladd Cam-drin Domestig

Mae Heddlu Dyfed-Powys a Llwybrau Newydd ar fin cael cerbyd ymwybyddiaeth diogelwch newydd i ymladd cam-drin domestig.

Mae’r heddlu ac elusen Llwybrau Newydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y cerbyd newydd hwn.

Bydd gan y cerbyd ganolfan wybodaeth ryngweithiol a hefyd ystafell ymgynghori breifat.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i ddigwyddiadau er mwyn tynnu sylw at bob math o gam-drin domestig a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr mewn ardaloedd gwledig.

Staff Llwybrau Newydd fydd yn rhedeg y cerbyd gyda chefnogaeth Timau Plismona Bro.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Owain Richards: “Bydd y cerbyd yn caniatáu i ni fynd i ddigwyddiadau a lledaenu’r neges na fydd cam-drin domestig o unrhyw fath yn cael ei oddef.

“Mae gan Heddlu Dyfed-Powys swyddogion wedi eu hyfforddi’n benodol i ymdrin â cham-drin domestig a byddwn yn annog dioddefwyr i beidio â dioddef yn dawel.”

Meddai Mike Wilkinson o Lwybrau Newydd: “Mae dioddefwyr cam-drin domestig a cham-drin rhywiol yn aml yn teimlo’n ddiymadferth ac yn ynysig.

“Mae’r Cerbyd Ymwybyddiaeth Diogelwch yn adnodd bendigedig a fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael ac yn annog pobl i ddod ymlaen a cheisio’r cymorth hwnnw.

“Bydd yn caniatáu i ni fynd â’n gwasanaethau cymorth a chwnsela arbenigol i’r bobl sydd eu hangen mewn ardaloedd gwledig ac sy’n teimlo wedi’u hynysu’n bellach oherwydd ble y maent yn byw.”

Disgwylir y bydd y cerbyd yn cyrraedd ar gyfer ei ddefnyddio yn y flwyddyn newydd.

4/01/10 14:48