Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2009
  4. Tachwedd
  5. Gwrthdrawiad Ffordd Angheuol ar Ffordd Bryn, Aberystwyth

Gwrthdrawiad Ffordd Angheuol ar Ffordd Bryn, Aberystwyth

Am 4.35pm ddydd Iau’r 19eg o Dachwedd 2009 digwyddodd gwrthdrawiad traffig y ffordd ar Ffordd Bryn, Aberystwyth.

Gadawodd cerbyd unigol ffordd ag iddi oleddf serth gan deithio peth pellter cyn gwrthdaro â tho tŷ (oedd yn is nag uchder y ffordd) ac yna aeth yn sownd yn erbyn yr adeilad.

Aeth staff y Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans i’r lleoliad a rhoi cymorth cyntaf i’r hen ŵr lleol, ond yn anffodus bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Nid oedd neb yn y tŷ ar y pryd ac ni anafwyd neb arall yn y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad, a dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â gorsaf heddlu Aberystwyth drwy ffonio 101

4/01/10 14:48