Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2009
  4. Tachwedd
  5. Marwolaeth Christine Ann Thomas yn Aber-porth, 26ain o Orffennaf 2008

Marwolaeth Christine Ann Thomas yn Aber-porth, 26ain o Orffennaf 2008

Mae marwolaeth Christine Ann Thomas yn Aber-porth yng Ngorffennaf 2008 yn achos trasig. Creodd yr amgylchiadau unigryw heriau anghyffredin i Heddlu Dyfed-Powys wrth ymchwilio.

Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Richard Evans

“Mae, a bydd, Heddlu Dyfed-Powys bob amser yn ymchwilio ac yn archwilio’n eithriadol o drylwyr i unrhyw achos yn ymwneud â marwolaeth unigolyn a achoswyd gan unigolyn arall. Nid oedd marwolaeth drasig Christine Thomas yn eithriad.”

“Penderfynwyd cyhuddo Brian Thomas o lofruddiaeth yn dilyn ystyriaeth hynod ofalus o’r dystiolaeth a oedd ar gael ar y pryd, gan gynnwys ceisio cyngor Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cwnsler Iau a Chwnsler y Frenhines.”

Parheuodd yr ymchwiliad ar ôl y cyhuddiad, a defnyddiwyd yr arbenigwyr rhyngwladol pennaf ym maes anhwylderau cwsg. Gofynnwyd i’r Llys ystyried a oedd ymddygiad Brian Thomas y noson honno yn awtomatiaeth synhwyrol neu wallgof.

Mae lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol yn dilyn marwolaeth unrhyw unigolyn bod hynny’n cael ei archwilio’n drylwyr ac, os yw’n briodol, bod y mater yn cael ei brofi yn y Llys.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn fodlon bod y Llys wedi clywed y ffeithiau, ac rydym yn cydymdeimlo â theulu Brian a Christine Thomas.

4/01/10 14:48