Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2009
  4. Tachwedd
  5. Gwneud i Droseddwyr Dalu

Gwneud i Droseddwyr Dalu

Mae Heddlu Dyfed Powys a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yn gofyn am gymorth pobl er mwyn sicrhau fod troseddwyr yn talu.

Nod y cyd-ymgyrch hwn yw codi ymwybyddiaeth am Ddeddf Enillion Trosedd (POCA) ymhlith pobl leol.

Mae’r ddeddf yn galluogi asiantaethau sy’n gorfodi’r gyfraith i gymryd arian parod ac asedau oddi ar droseddwyr i sicrhau na fyddant yn elwa’n ariannol o’u troseddau.

Caiff canran o’r arian hwn ei ddychwelyd i’r cymunedau trwy gyfrwng amryw o gynlluniau gan gynnwys ‘Rhoi Arian yn ôl i’r Gymuned’, er mwyn gwella’r ardaloedd lle’r ydym yn byw.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar fysys ac mewn cyhoeddiadau lleol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Hopkin: “Mae rhai troseddwyr yn ystyried carchar neu gosb cymunedol fel rhai o ‘beryglon y gwaith’.  Fodd bynnag, dydyn nhw ddim am golli eu tai, na’u ceir na’u setiau teledu crand.

“Mae’r Ddeddf Enillion Trosedd yn ein helpu i sicrhau na fydd y bobl hyn yn elwa o drosedd ac na fyddant felly yn cael eu dyrchafu’n ddelfryd ymddwyn i bobl ifanc sy’n edmygu eu heiddo drud na fedr bobl eraill eu fforddio.

“Nod yr ymgyrch yw cael pobl i ddweud wrthym os ydynt yn gwybod am unrhyw unigolyn sy’n byw ar enillion trosedd.

“Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n berchen ar nwyddau drud neu’n byw yn uwch na’i modd, ystyriwch am eiliad sut y maent yn gallu fforddio gwneud hynny ac, os ydych yn credu eu bod yn byw ar enillion trosedd, dywedwch wrthym.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.

29/07/10 8:27