Pŵer Plagio Plant - Neges Diogelwch Gan Blant i’w Rhieni
Mae heddlu Sir Benfro yn targedu plant mewn ymdrech i drosglwyddo neges diogelwch i’w rhieni.
Mae uned plismona’r ffyrdd yn poeni am eu bod yn dal i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodol i oedolion sy’n gwrthod gwisgo gwregys diogelwch er gwaethaf nifer o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a gorfodaeth.
Mae’r heddlu’n awr yn rhoi taflenni i bob plentyn ysgol yn y sir ynghyd â llythyr esboniadwy ar gyfer eu rhieni.
Meddai’r Arolygydd Andy Phillips: “Rydym wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd gorfodi ac mae’n siomedig fod cynifer o oedolion yn dal i beryglu eu bywydau drwy beidio â gwisgo gwregysau diogelwch.
“Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn, rydym wedi cyhoeddi 350 o hysbysiadau cosb benodol i bobl nad oeddynt yn gwisgo eu gwregys, a dim ond y rhai y cymerwyd camau yn eu herbyn yw’r rhain.
“Mae’r neges yn glir – Mae gwisgo gwregys yn achub bywydau. Rydym yn gobeithio y bydd y plant yn clywed y neges syml hon ac yn ei throsglwyddo i’w rhieni, gan sicrhau eu bod yn ‘clync-clicio’ y tro nesaf yr ânt yn y car.”
Lansiwyd yr ymgyrch heddiw yn Ysgol St Florence gan Anna Ryder Richardson, ein swyddogion diogelwch ffyrdd iau a chyngor yr ysgol.
Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o wythnos genedlaethol diogelwch y ffyrdd.
Hafan