Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2009
  4. Tachwedd
  5. Targedu Cerbydau Nwyddau Trwm

Targedu Cerbydau Nwyddau Trwm

Mae Uned Plismona Ffyrdd Sir Benfro wedi bod yn parhau gydag ymgyrchoedd wedi’u targedu mewn ymgais i gadw ein ffyrdd yn ddiogel. 

Dros y penwythnos archwiliwyd cerbydau nwyddau trwm ar yr A477 yn Sageston gan dargedu cerbydau nwyddau tramor a oedd yn mynd tuag at Borthladd Doc Penfro. 

Archwiliwyd cyfanswm o 17 o gerbydau dros gyfnod o ddwy awr gan ddarganfod 5 cerbyd yn troseddu. 

Riportiwyd tri gyrrwr am droseddau tacograff a rhoddwyd cosbau penodedig graddedig gyda chyfanswm o £1,100 o ddirwyon, ac roedd cerbydau dau yrrwr mor beryglus fel y gwaharddwyd hwy yn y fan a’r lle.

4/01/10 14:48