Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Ionawr
  5. Cadw Ffyrdd Sir Benfro’n Ddiogel

Cadw Ffyrdd Sir Benfro’n Ddiogel

Treuliodd Uned Plismona Ffyrdd Sir Benfro 2009 yn cadw ffyrdd y sir yn ddiogel.

Daliodd yr Uned 141 yn fwy o bobl yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol nag yn y flwyddyn flaenorol, rhoddwyd 30 yn fwy o ddirwyon goryrru a chymerwyd 385 o gerbydau oddi ar y ffordd gan nad oedd ganddynt y ddogfennaeth gywir.

Cynyddodd rhanbarth Sir Benfro hefyd y nifer o brofion anadl a gyflawnwyd gan dros 3,000 ond daliwyd 65 yn llai o yrwyr yn gyrru pan dros y terfyn alcohol cyfreithiol.

Meddai’r Arolygydd Andy Phillips: “Gyda gobaith, mae’r neges ynghylch yfed a gyrru o’r diwedd yn cael ei chlywed.

“Fodd bynnag, rydym wedi gweld cynnydd mewn troseddau eraill fel gyrru heb y ddogfennaeth gywir. Gall hyn arwain at atafaelu eich car, felly rydym yn annog pobl i ufuddhau i gyfreithiau’r ffordd neu fod yn barod am ganlyniadau drud.”

Gwnaeth yr Uned, ynghyd â’r Uned Ymateb Arfog, ddatgelu 181 o droseddau, arestion 165 o bobl am droseddau cyffuriau a rhoi 58 o rybuddion canabis.

Ychwanegodd yr Arolygydd Phillips: “Mae’r Uned Diogelwch y Ffyrdd a’r Uned Ymateb Arfog yn rhagweithiol yn eu hagwedd ac yn bwriadu atal troseddwyr rhag defnyddio’r ffyrdd a chadw ffyrdd y sir yn ddiogel.

"Yn 2010 byddwn yn parhau i dargedu’r rhai hynny sy’n diystyru’r gyfraith.”

19/01/10 14:53