Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Ionawr
  5. Profi Anadl Dros 4,000 o Bobl yn Sir Benfro ar Gyfer Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru’r Nadolig

Profi Anadl Dros 4,000 o Bobl yn Sir Benfro ar Gyfer Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru’r Nadolig

Cymerodd dros 4,000 o bobl yn Sir Benfro ran yn ymgyrch atal yfed a gyrru’r Nadolig eleni.

Cynhaliodd yr heddlu stop wiriadau ar draws y sir mewn ymgais i addysgu pobl ynghylch peryglon yfed a gyrru.

O’r 4,005 o bobl a gafodd brawf anadl dim ond 37 a arestiwyd am yrru pan dros y terfyn alcohol cyfreithiol.

O’r rheiny, roedd 13 yn fwy na dwywaith dros y terfyn cyfreithiol, roedd naw dan 25 oed ac arestiwyd chwech yn y bore.

Meddai’r Arolygydd Andy Phillips: “Er i ni roi prawf anadl i dros ddwywaith y nifer o yrwyr dim ond 0.9 y cant o bobl oedd dros y terfyn alcohol cyfreithiol. Mae hwn yn welliant o 1.6 y cant ers ymgyrch y llynedd.

“Er bod hyn yn galonogol mae’n achos pryder arbennig bod cynifer o bobl o leiaf ddwywaith dros y terfyn cyfreithiol.

“Hoffem hefyd bwysleisio bod angen i bobl fod yn ymwybodol o’r peryglon os ydynt yn gyrru’r bore canlynol ar ôl iddynt fod allan yn yfed. Stopiwyd un unigolyn am 11am a chanfod ei fod o hyd dros y terfyn cyfreithiol.

“Roedd mwyafrif y gyrwyr y gwnaethom eu stopio’n gefnogol i’n hymgyrch i gadw ffyrdd Sir Benfro’n ddiogel ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cydweithrediad.”

29/07/10 8:27