Gofal Mewn Tywydd Gwael
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio preswylwyr y gallai mwy o eira fod ar y ffordd, ac yn eu hatgoffa i gymryd gofal.
- Peidiwch â cherdded ar byllau dŵr neu lynnoedd wedi rhewi, mae’n bosib nad yw’r dŵr o dan yr wyneb wedi rhewi
- Os yw’r ffyrdd yn beryglus a heb gael eu graeanu peidiwch â gyrru oni bai bod gwir angen, a gyrrwch yn araf ac yn ofalus, gan neilltuo amser ychwanegol ar gyfer eich taith. Os oes rhaid i chi deithio ewch â dillad cynnes addas, diod boeth ac ychydig o fwyd gyda chi.
- Os oes rhaid i chi yrru mewn eira neu rew defnyddiwch oleuadau’r car wedi’u gostwng, ceisiwch beidio â gwneud symudiadau sydyn, herciog, cadwch mewn gêr uchel a pheidiwch â brecio’n rhy gyflym. Os bydd angen i chi adael eich car a cherdded, sicrhewch nad yw’n achosi rhwystr i bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd.
Mae Swyddogion yr Heddlu ar draws ardal Dyfed-Powys wedi bod yn gwneud ymdrech fawr i ddiogelu preswylwyr, ac anfonwyd cerbydau 4x4 i ardaloedd a oedd wedi dioddef fwyaf yn sgil y tywydd er mwyn galluogi swyddogion i ymateb i alwadau brys.
Gan fod y tywydd gwael yn debygol o barhau mae’r heddlu’n gofyn i’r cyhoedd ffonio 999 mewn achos brys yn unig, sef pan mae bywyd mewn perygl neu pan mae trosedd yn digwydd.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Nick Ingram, “Dyma’r cyfnod o dywydd oer hiraf rydyn ni wedi ei brofi ers nifer o flynyddoedd, ac mae rhagolygon y tywydd yn dangos y gallai mwy o eira fod ar ei ffordd. Rydyn ni eisiau i’n preswylwyr fod yn ddiogel ac rydyn ni felly’n eu hatgoffa i fod yn ofalus pan fyddan nhw’n mynd allan. Rydyn ni’n cynghori pobl i gadw golwg ar ragolygon y tywydd ar gyfer eu hardal, a dim ond teithio pan fod gwir angen pan ei bod yn addo eira a rhew.
“Rydyn ni wedi paratoi ar gyfer ymateb i alwadau brys ac rydyn ni’n gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i gyrraedd y bobl sydd fwyaf ein hangen.”
Hafan