Y Gwasanaethau Brys yn Pwysleisio Peryglon Llynnoedd Wedi Rhewi
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi uno gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i atgoffa pobl o’r peryglon o gerdded ar lynnoedd a phyllau sydd wedi rhewi.
Gwnaed yr apêl yn dilyn digwyddiadau’n ddiweddar pan welwyd oedolion ifanc yn cerdded ar lyn oedd wedi rhewi yn Llandrindod – a bu’n rhaid achub dyn oedd yn ceisio achub ei gi o’r afon Hafren.
Meddai’r Uwch-arolygydd ym Mhowys, Huw Meredith:
"Mae’n hawdd gweld pam y byddai llynnoedd sydd wedi rhewi yn denu plant ond mae’n beryglus ac yn anghyfrifol i gerdded neu seiclo arnynt. Rwyf felly’n annog rhieni i rybuddio’u plant ac i fod yn wyliadwrus wrth ymweld â pharciau yn ystod y cyfnod rhewllyd hwn. Mae pobl sy’n cerdded ar lynnoedd o rew yn peryglu eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill. Os bydd rhywun yn syrthio drwy’r ia, gall y canlyniadau fod yn angheuol. Mae ein neges yn syml - cedwch yn ddiogel, cedwch draw o’r ia.”
Pam mae cronfeydd dŵr sydd wedi rhewi yn beryglus?
- Mae llynnoedd a chronfeydd dŵr sydd wedi rhewi yn beryglus iawn - nid yw’r dŵr yn rhewi’n gyson a gall yr ia fod yn denau iawn mewn mannau
- Perchenogion cŵn – cymerwch ofal o gwmpas dŵr sydd wedi rhewi a pheidiwch â thaflu brigau nac eitemau arall arno. Os bydd eich chi yn mynd i drafferthion, peidiwch â cheisio’i achub.
- Mae’r dŵr yn ddigon oer i achosi hypothermia, all effeithio ar eich gallu i nofio a chynyddu’r perygl o foddi.
Hafan