Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Ionawr
  5. Lladrad Arfog yn Swyddfa’r Post, Ffwrnes, Teras Luton, Llanelli

Lladrad Arfog yn Swyddfa’r Post, Ffwrnes, Teras Luton, Llanelli

Am 8.40 pm ar nos Fercher 30ain Rhagfyr 2009, digwyddodd lladrad arfog yn Swyddfa’r Post, Ffwrnes, Teras Luton, Llanelli, pan gafodd cynorthwyydd siop ei bygwth â chyllell cyn i’r lladron ddwyn swm o arian. 

Mae’r Heddlu yn dymuno siarad â dyn a welwyd ar y system CCTV a ddisgrifir fel: dyn tenau, yn gwisgo trowsus tracwisg tywyll a thop llwyd gyda hwd a logo rhifau amlwg, sef  “428” ar y ffrynt yn erbyn cefndir o lythrennau gwyn.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad hwn i gysylltu â’r Adran CID yng ngorsaf Heddlu Llanelli drwy ffonio 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

29/07/10 8:27