Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Ionawr
  5. Mae Heddlu Sir Gaerfyrddin Wedi Gweld Cynnydd yn Nifer y Sgamiau Sy’n Cael Eu Riportio

Mae Heddlu Sir Gaerfyrddin Wedi Gweld Cynnydd yn Nifer y Sgamiau Sy’n Cael Eu Riportio

Mae Heddlu Sir Gaerfyrddin wedi gweld cynnydd yn nifer y sgamiau sy’n cael eu riportio. Yn ffodus, mae’r rhai hynny sy’n riportio’r sgam yn sylweddoli mai sgam ydyw ac yn rhoi gwybod i’w heddlu lleol ac nid ydynt wedi dioddef o’i herwydd.

Mae Heddlu Sir Gaerfyrddin wedi’u hymrwymo i leihau effeithiau pob math o dwyll. Mae nifer o’r sgamiau a restrir isod yn cael eu gweithredu gan dwyllwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac ni allwn gwblhau ymchwiliad ystyrlon oherwydd materion awdurdodaeth. Ein blaenoriaethau ni felly yw atal ac amharu ar y sgamiau.

Yn aml mae gan sgamiau nodweddion tebyg a all eich rhybuddio eu bod o bosibl yn dwyllodrus:

Cofiwch nad ydych chi wedi cael eich targedu’n bersonol. Anfonir miloedd o lythyrau sgam, negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon ffacs i unigolion a chwmnïau ar draws y byd bob dydd.

Os ydych chi wedi dioddef twyll ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin dylech gysylltu â Chanolfan Gyfathrebu Heddlu Dyfed-Powys drwy ffonio 101.

29/07/10 8:27