Newyddion ac Apeliadau: Chwefror 2010
Datganiadau'r Wasg
Yn Ôl yr Arolwg… 26/02/10
Gofynnwyd i bobl sy’n byw yn ardal Heddlu Dyfed-Powys i ba raddau roedden nhw’n meddwl bod yr Heddlu a’r Cyngor Lleol yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd yn lleol.
Heddlu Dyfed-Powys yn Chwifio’r Faner Fel Rhan o Fis Hanes LHDT 19/02/10
Bydd baner yr enfys yn cyhwfan uwch rhai o adeiladau Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ym mis Chwefror i gefnogi mis hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Gwrthdrawiad Traffig y Ffyrdd Angheuol, Penalun, Dinbych-y-pysgod 19/02/10
Mae’r heddlu’n ymchwilio i wrthdrawiad traffig y ffyrdd ar yr A4139 ym Mhenalun, Dinbych-y-pysgod tua 3.15pm ddydd Mercher 17 Chwefror, 2010.
Atafaelwyd Gwerth £11,000 o Heroin gan Ymgyrch Poker 19/02/10
Atafaelwyd heroin gyda gwerth stryd o dros £11,000 yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Ymosodiad Difrifol yn Hwlffordd 16/02/10
Mae dyn 19 oed wedi ei gyhuddo o achosi anaf corfforol difrifol yn dilyn ymosodiad ar Sgwâr y Castell ar 14 Chwefror.
Dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â phecyn amheus yn Noc Penfro 16/02/10
Mae dyn 84 oed wedi ei gyhuddo o osod eitem wedi ei wneud i edrych fel dyfais ffrwydrol gyda’r bwriad o beri ofn. Mae’r cyhuddiad mewn perthynas â phecyn amheus yn Noc Penfro.
Cyllideb yr Heddlu 2010/11 - Treth y Cyngor 16/02/10
Cafwyd cymeradwyaeth unfrydol Aelodau Awdurdod yr Heddlu i gyllideb 2010/11 ar gyfer Gwasanaeth yr Heddlu, a oedd yn golygu cynnydd o 4.46% o ran treth y cyngor ar gyfer eiddo Band D.
Datganiad gan Heddlu Dyfed Powys Ynghylch Achos Martin Lansley 16/02/10
Cyn gynted ag y daeth i’r amlwg y gallai systemau’r heddlu fod dan fygythiad, cychwynnwyd ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu. Cafodd Mr Lansley ei wahardd o’i waith yn ddi-oed tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Ymosodiad Rhyw yn Hwlffordd 15/02/10
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw yn Hwlffordd.
Seremoni Wobrwyo Comander Rhanbarthol Powys 15/02/10
Cynhaliwyd pedwaredd Seremoni Wobrwyo Comander Rhanbarthol Powys ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ar yr 28ain o fis Ionawr - ac eleni eto roedd yn achlysur i’w gofio!
Bwrdd Lleol Diogelu Plant Ceredigion 09/02/10
Derbyniodd Heddlu Dyfed Powys gyhuddiad o ymosodiad rhywiol yng Ngrŵp Chwarae Padarn Sant, Aberystwyth. Arestiwyd person mewn cysylltiad â'r cyhuddiad hwn a rhyddhawyd yr unigolyn ar fechnïaeth yr heddlu.
Apêl Rhydaman – Canolfan Pledu Paent Dyffryn Aman 03/02/10
Datganiad i'r wasg 03/02/10
Arestiadau Cyffuriau Dosbarth a yn Aberystwyth
Ymgyrch Gwregysau Diogelwch - PWYLLWCH, Chwefror 2010 02/02/10
Paned gyda’ch Plismon 01/02/10
Mae PCSO Katie Young o Dîm Plismona Bro Llwynhendy wedi lansio ‘Paned gyda’ch Plismon’ yn Morrisons, Pemberton.
Hafan