Paned gyda’ch Plismon
Mae PCSO Katie Young o Dîm Plismona Bro Llwynhendy wedi lansio ‘Paned gyda’ch Plismon’ yn Morrisons, Pemberton.
Mae gan Morrisons filoedd o gwsmeriaid bob wythnos, ac mae swyddogion heddlu lleol yn meddwl ei fod yn lleoliad bendigedig i bobl leol gwrdd â’u swyddog lleol.
Gwahoddir cwsmeriaid i alw draw i gaffi Morrisons bob prynhawn dydd Mercher rhwng 3-4pm a chael Paned gyda’ch Plismon. Mae swyddogion yn annog pobl i alw draw a chael cyngor ynghylch atal trosedd neu i ddweud wrthym beth rydych chi’n credu y gallwn ni ei wneud i wella eich cymuned!
Meddai rheolwraig y siop, Valerie Powell: “Rydw i’n hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Plismona Bro Llwynhendy, ac wrth gydweithio rydw i’n teimlo y gallwn ni greu cymuned ddiogelach i weithio a byw ynddi .”
Ychwanegodd yr Arolygydd James Davies, “Rydym bob amser yn edrych am ddulliau ychwanegol i’n cymunedau allu dod i gysylltiad â’u heddlu lleol, fel y gallant roi gwybod i ni am eu problemau a’n galluogi ni i gymryd camau ymarferol i ymateb iddynt. Mae Paned gyda’ch Plismon yn darparu dull pellach o wneud hyn.”
Mae’r llun yn dangos PCSO Katie Young gyda Ben Milsom sy’n 8 oed.
Hafan