Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Chwefror
  5. Ymgyrch Gwregysau Diogelwch - PWYLLWCH, Chwefror 2010

Ymgyrch Gwregysau Diogelwch - PWYLLWCH, Chwefror 2010

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi’r ymgyrch PWYLLWCH genedlaethol sy’n annog pobl i wisgo gwregysau diogelwch mewn cerbydau modur ar bob math o daith.

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg o ddydd Llun y 1af hyd at ddydd Sul yr 28ain o Chwefror 2010 a bydd yn cynnwys hysbysebion teledu, sinema, radio a gweithgareddau awyr agored.

Bwriad yr ymgyrch yw newid ymddygiad pobl a’u hagweddau tuag at wisgo gwregysau diogelwch er mwyn cynyddu cyfraddau gwisgo gwregysau diogelwch yn seddau blaen a chefn cerbydau ac i ddatblygu’r arfer o wisgo gwregysau diogelwch.

Yn 2007 dangosodd ymchwil nad oedd 34% o’r bobl sy’n cael eu lladd mewn ceir yn gwisgo gwregys diogelwch.

Bydd Partneriaeth Diogelwch y Ffyrdd Canolbarth a Gorllewin Cymru’n cydweithio i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â gwisgo gwregysau.

Mae’r gwasanaeth Tân ac Achub yn cydweithio’n agos gyda’r Heddlu a swyddogion diogelwch y ffyrdd wrth redeg Ymgyrch ‘Options’ lle mae gyrwyr sy’n troseddu’n cael y cyfle i dderbyn mewnbwn diogelwch y ffyrdd yn lle hysbysiad cosb benodedig.

Mae pob Awdurdod Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys wedi cynnal diwrnodau gwirio seddau plant a digwyddiadau tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, ac yn anffodus wedi darganfod bod tua 80% o seddau plant wedi eu gosod yn anghywir – bydd mwy o ddiwrnodau gwirio seddau plant yn cael eu hysbysebu’n lleol yn y misoedd nesaf.

Meddai’r Prif Arolygydd Phil Davies, “Byddem yn annog y gyrwyr hynny sy’n teithio gyda baban neu blentyn ifanc yn eu cerbyd i ddod i’r digwyddiadau hyn. Bydd eich seddau plant a’ch gwregysau’n cael eu gwirio gan weithwyr proffesiynol yn rhad ac am ddim.”

Ychwanegodd, “Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn gwrthdrawiad os nad ydych yn gwisgo gwregys diogelwch. Mae’n beth mor hawdd i’w wneud, a gallai arbed eich bywyd.”

Os oes angen cyngor ynghylch seddau plant arnoch yn y cyfamser cysylltwch â’r Uned Diogelwch y Ffyrdd yn eich ardal leol neu ewch at http://www.protectchildgb.org.uk/

29/07/10 8:27