Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Chwefror
  5. Dataganiad i'r Wasg, Chwefror 2010

Datganiad i'r Wasg ,Chwefror 2010

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn datgan bod y bobl ganlynol wedi cael eu harestio a’u cyhuddo o fod â Heroin yn eu meddiant gan fwriadu cyflenwi:

Bydd Shah ac Amir yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mercher y 3ydd o Chwefror 2010 lle gwneir cais i gadw’r ddau yn y ddalfa.

Mae Ymgyrch Wolf yn ymgyrch heddlu rhagweithiol a redir gan Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau eraill i dargedu cyflenwi cyffuriau Dosbarth A, sef Heroin a Chrac Cocên, i gymunedau gwledig Ceredigion a Phowys o ardal Wolverhampton yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Greg Williams o Orsaf Heddlu Aberystwyth:

“Mae Ymgyrch Wolf yn ymgyrch barhaus sy’n targedu cyffuriau yng ngogledd ardal Heddlu Dyfed-Powys ac yn arbennig yn nhref Aberystwyth. Mae cyffuriau Dosbarth A yn dryllio cymunedau a dim ond gyda chefnogaeth y cyhoedd y gall masnachwyr cyffuriau o’r tu allan i’r ardal gael eu stopio a’u dal. Rydym ni, ynghyd â’r system gyfiawnder, yn anfon neges gref at fasnachwyr; byddwch yn cael eich dal a byddwch yn derbyn dedfryd yn y carchar.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu Crimestoppers Cymru ar 0800 555 111.

29/07/10 8:27