Apêl Rhydaman – Canolfan Pledu Paent Dyffryn Aman
Rhywbryd rhwng dydd Gwener y 23ain o Ionawr 2010 a dydd Sadwrn y 29ain o Ionawr 2010 aeth rhywun i iard yng Nghanolfan Pledu Paent Dyffryn Aman, Ffordd y Brenin, Llandybie a dwyn offer Pledu Paent. Roedd yr eitemau’n cynnwys generadur petrol bach, 5 tun Carbon Deuocsid mawr du, 60 tun Carbon Deuocsid bach du, nifer fawr o oferolau cuddliw gwyrdd a nifer fawr o wregysau offer du.
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn dyst i unrhyw beth amheus yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn neu sydd â gwybodaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad gysylltu â Gorsaf Heddlu Rhydaman ar 101 neu Crimestoppers Cymru’n ddienw ar 0800 555111.
Hafan