Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Chwefror
  5. Seremoni Wobrwyo Comander Rhanbarthol Powys

Seremoni Wobrwyo Comander Rhanbarthol Powys

Chief Superintendent Steve Hughson hands the Innovation Award to Superintendent Huw Meredith for his ‘commitment and dedication to improving performance in Powys’ (large image, jpg)Cynhaliwyd pedwaredd Seremoni Wobrwyo Comander Rhanbarthol Powys ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ar yr 28ain o fis Ionawr - ac eleni eto roedd yn achlysur i’w gofio!

Yn ogystal â Heddweision, staff a theulu a ffrindiau’r enillwyr, daeth nifer o bobl bwysig ac adnabyddus y sir i’r digwyddiad.  Roedd y rheiny’n cynnwys Arglwydd Raglaw Powys Shân Legge-Bourke, Uchel Siryf Powys David Lloyd a’i wraig Sophia, a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Powys Jeremy Patterson, yn ogystal â Meiri Llandrindod (Patricia Hill), Y Drenewydd (Joy Jones) a’r Trallwng (Annie Holloway).

Fel arfer, roedd Heddweision, PCSOs a Chwnstabliaid Gwirfoddol yn derbyn gwobrau ond eleni am y tro cyntaf gwahoddwyd y cyhoedd i gymryd rhan yn yr enwebiadau. A diolch i’w hymdrechion, enwebwyd nifer o Swyddogion am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb.

Meddai’r Comander Rhanbarthol, y Prif Uwch-arolygydd Steve Hughson: “Mae’r achlysur hwn yn arwydd o wir ymroddiad swyddogion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i sicrhau bod aelodau o’n cymunedau amrywiol yn cadw’n ddiogel.  Mae gennyf wir reswm i ymfalchïo yn llwyddiant pob un o’m staff a byddaf yn parhau i wobrwyo a chydnabod eu cyfraniad, yn enwedig y rheiny sydd wedi gwneud gwaith arbennig o dda.

“Hoffwn hefyd ddiolch i bobl am gymryd yr amser i gysylltu â’r gwasanaeth er mwyn enwebu eu Heddwas y Flwyddyn ar gyfer y Wobr Gymunedol. Hoffwn hefyd gydnabod aelodau o’n cymuned sy’n cefnogi a chynorthwyo Rhanbarth Powys i ddarparu gwasanaeth plismona.  Byddaf i, ynghyd â’m staff a’n partneriaid, yn dal ati i chwilio am ffyrdd o ddarparu gwell gwasanaeth er mwyn sicrhau bod Powys yn parhau i fod yn ardal ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi.

“Rwyf am i bobl Powys deimlo’n hyderus ynghylch eu Gwasanaeth Plismona ac yn hollol fodlon â’r hyn a wnawn.  Mae’r gwobrau hyn yn arwydd o’n hymroddiad ac yn gyfle i ni ddangos ein bod yn gweithio dan amgylchiadau heriol er mwyn gwireddu’r addewid hwnnw.”

Yn dilyn y cyflwyniad agoriadol, bu Shân Legge-Bourke yn annerch y gynulleidfa a phwysleisiodd ei balchder o gael bod ymhlith cwmni mor arbennig.    Mynegodd ganmoliaeth hefyd am ymdrechion yr Heddlu wrth barhau i gadw ein cymunedau yn ddiogel.

Ar ôl cyflawni’r defodau ffurfiol, cafodd yr enillwyr a’r gwesteion gyfle i gymysgu gyda Heddweision a Thîm Uwch Reolwyr Powys a sgwrsio am amryw o faterion, o’r enillwyr i blismona yn eu hardal hwy.

Cafodd y rhai oedd yn bresennol hefyd gyfle i siarad â Thîm Achub Mynydd y Sir a’r Tîm Plismona Bro, oedd wedi gosod stondinau i arddangos y gwaith ardderchog  a wneir ganddynt i sicrhau fod gan Bowys un o’r graddfeydd troseddu isaf ar draws Cymru a Lloegr.

Yr enillwyr:

Os hoffech gysylltu â’ch Tîm Plismona Bro i drafod materion yn eich ardal chi, ffoniwch 101

24/08/10 11:46