Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Chwefror
  5. Datganiad gan Heddlu Dyfed Powys Ynghylch Achos Martin Lansley

Datganiad gan Heddlu Dyfed Powys Ynghylch Achos Martin Lansley

Cyn gynted ag y daeth i’r amlwg y gallai systemau’r heddlu fod dan fygythiad, cychwynnwyd ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu. Cafodd Mr Lansley ei wahardd o’i waith yn ddi-oed tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.  Cafodd amgylchiadau’r achos eu cyfeirio hefyd at sylw Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC), sydd wedi bod yn goruchwylio’r ymchwiliad. 

Yn ogystal â chael ei euogfarnu a’u ddedfrydu am gyflawni troseddau, mae Mr Lansley yn awr wedi ymddiswyddo o’r Heddlu. 

O ganlyniad i’r achos hwn cynhaliwyd adolygiad o fesurau diogelwch TG yr heddlu gan ystyried pa fesurau rheoli ychwanegol oedd eu hangen i leihau’r risg o  rywbeth tebyg yn ddigwydd eto.  Os gwelir bod angen hyfforddi neu addysgu unrhyw unigolion neu’r sefydliad, byddwn yn cydnabod hynny ac yn gweithredu’n briodol. 

Gellir sicrhau’r cyhoedd y bydd unrhyw unigolion a gyflogir gan yr heddlu sy’n cyflawni trosedd yn cael eu dwyn gerbron y llys. 

Meddai Tom Davies, Comisiynydd yr IPCC dros Gymru: "Rhaid canmol heddlu Dyfed-Powys am ddiwydrwydd a phroffesiynoldeb yr ymchwiliad hwn a oruchwyliwyd gennym. Arweiniodd at euogfarnu Martin Lansley ac mae’n arwydd o allu’r Heddlu a’r IPCC i gydweithio pan fydd achosion difrifol yn ymwneud â chywirdeb yn codi." 

29/07/10 8:27