Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Mawrth

Newyddion ac Apeliadau: Mawrth 2010

Datganiadau'r Wasg

Llanidloes a Phenffordd-las 30/03/10

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig y ffordd a arweiniodd at anafiadau difrifol a ddigwyddodd ar y B4518 rhwng Llanidloes a Phenffordd-las.

Lansio Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder i Dorri Cyfraddau Gwrthdrawiadau yng Nghanolbarth a De Cymru 26/03/10

Gall gyrwyr sy’n torri’r terfyn cyflymder yng Nghanolbarth a De Cymru nawr gael y dewis o fynychu cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn lle cael eu herlyn yn awtomatig.

Robbery Carmarthen 26/03/10

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i ddigwyddiad tua 6.20pm ddydd Iau’r 25ain o Fawrth 2010 mewn lôn rhwng Heol Parcmaen a Ffordd Dewi Sant, Caerfyrddin lle cafodd pwrs ei ddwyn oddi wrth wraig gan ddyn anhysbys.

Galw Gwersyllwyr Gwyllt 26/03/10

Mae angen pobl ifanc i gymryd rhan yn ail Wersyll Gwyllt Sir Benfro.

Hyfforddiant Chwarae Rôl ar gyfer Myfyrwyr yr Heddlu 24/03/10

Myfyrwyr yr heddlu yn cael cyfle i brofi eu sgiliau newydd yn gyhoeddus.
Nod Rhaglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu (IPLDP) yw datblygu myfyrwyr newydd yr heddlu.

Lansio Gwylwyr Arfordir Cymru i Fynd i'r Afael â Throseddau Arforol 24/03/10

Cafodd menter bwysig ei lansio heddiw i fynd i’r afael â smyglo cyffuriau, troseddau trefnedig a mewnfudo anghyfreithlon ar arfordir Cymru.

Heddluoedd Cymru yn Lansio Ymgyrch Aral Ffonau Symudol Wrth Yrru 24/03/10

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cefnogi’r Ymgyrch Cymru Gyfan gyntaf i Atal Ffonau Symudol wrth Yrru sy’n cael ei harwain gan Heddlu De Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Diogelwch Ffyrdd Cymru, ac a lansiwyd yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot.

Damwain Ffordd Angheuol yn Heol y Gwyddau, Caerfyrddin 23/03/10

Mae’r Heddlu’n ymchwilio i ddamwain ffordd a ddigwyddodd ychydig cyn 9am bore heddiw ar y gylchfan ym mhen uchaf Heol y Gwyddau, Caerfyrddin pan darodd lori yn erbyn cerddwraig.  Yn anffodus derbyniodd y wraig oedrannus anafiadau angheuol.

Targedu Lladron Ceir yn Ardal Dinbych-y-pysgod 23/03/10

Mae Heddlu Dyfed Powys yn targedu lladron ceir yn Ninbych-y-pysgod, Saundersfoot ac Arberth.

Disgos Golau Glas yn Merlin’s Bridge 23/03/10

Bwriedir cynnal disgos Golau Glas yn Merlin's Bridge yn dilyn cwynion nad oes gan bobl ifanc yr ardal unrhyw beth i’w wneud.

Gweithgareddau Gwener am Ddim yn Aberdaugleddau 22/03/10

Mae pobl ifanc Aberdaugleddau yn cael cyfle i gymryd rhan mewn Gweithgareddau Gwener - Am Ddim!

Tîm Plismona Bro Dinbych-y-pysgod yn Annog Perchnogion Cŵn i Lanhau ar ôl eu Hanifeiliaid 22/03/10

Mae Tîm Plismona Bro Dinbych-y-pysgod yn rhybuddio pobl i lanhau ar ôl eu cŵn neu dderbyn dirwy.

Atafaelu Alcohol yn Aberdaugleddau 22/03/10

Mae swyddogion wedi atafaelu cyfanswm o 95 uned o alcohol gan bobl ifanc yn Aberdaugleddau.

Paned gyda Phlismon yn Hwlffordd 22/03/10

Mae pobl yn cael eu gwahodd i gwrdd â’u tîm plismona bro dros baned o de neu goffi.

Mae’r Heddlu’n Gofyn am Gymorth i Ddarganfod Balŵns Coll! 22/03/10

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am gymorth i ganfod cannoedd o falŵns coll.

Cynllun Prawf ar Gyfer Yfwyr Trafferthus 16/03/10

Bydd pobl sy’n cael eu harestio am droseddau yn gysylltiedig ag alcohol yn Sir Benfro nawr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cynllun peilot.

Dwyn Olew Gwresogi 16/03/10

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori preswylwyr i ofalu am eu holew gwresogi yn dilyn cynnydd mewn achosion o ddwyn olew yn yr ardal.

Diogelu Siediau 15/03/10

Mae’r Heddlu yn Sir Benfro’n annog pobl i ystyried diogelwch siediau. Yn draddodiadol mae’r heddlu’n gweld cynnydd mewn achosion o dorri i mewn i siediau yn ystod y gwanwyn.

Apêl i Ddarganfod Dyn Sydd Ar Goll 15/03/10

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am gymorth i ddarganfod dyn na wnaeth ddychwelyd at long yn Noc Penfro.

Mae Cadetiaid yr Heddlu Wedi Cyrraedd! 11/03/10

Dydych chi ddim yn aml yn cael cyfle i roi tro ar yr yrfa rydych chi’n meddwl ei dilyn… heblaw gyda Heddlu Dyfed-Powys.

Heddwas o Ddoc Penfro yn Ymddeol Ar ôl 30 Mlynedd 11/03/10

Mae un o’r swyddogion heddlu sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Noc Penfro yn ymddeol yr wythnos hon. 

Heddlu Dyfed-Powys yn Croesawu Cerdyn Riportio Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi 11/03/10

Mae canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn dangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn perfformio’n dda ac yn parhau i arwain y ffordd yng Nghymru a Lloegr o ran datrys troseddau.

Sioeau Teithiol Sir Benfro i Leihau Ofn Troseddau 10/03/10

Mae dwy sioe deithiol wedi eu trefnu ar gyfer y boblogaeth hŷn mewn ymgais i wneud iddynt deimlo’n ddiogelach yn eu cymunedau.

Caniatâd Cynllunio ar gyfer Canolfan Gydlynu Strategol 08/03/10

Ddoe, cymeradwyodd Cyngor Sir Caerfyrddin gais cynllunio ar gyfer adeiladu Canolfan Gydlynu Strategol ym Mhencadlys yr Heddlu.

Gwarchod Eich Gardd 08/03/10

Mae’n wanwyn felly mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio menter plannu amddiffynnol i gadw eich gardd yn ddiogel!

24/08/10 11:46