Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Mawrth
  5. Gwarchod Eich Gardd

Gwarchod Eich Gardd

Lynne Allbutt a Phrif Uwch-arolygydd Powys, Steve Hughson, yn trafod diogelwch yn yr ardd yng Nghanolfan Arddio Old Railway Line yn Three Cocks (large image, jpg)Mae’n wanwyn felly mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio menter plannu amddiffynnol i gadw eich gardd yn ddiogel!

Rydyn ni bob amser yn cael ein hatgoffa ynghylch sut i gadw ein heiddo’n ddiogel, ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu sylw at ddull nad yw’n cynnwys clo, larwm na golau diogelwch – dim ond planhigion!

Plannu amddiffynnol yw dull natur o helpu i leihau trosedd. Fydd lladron ddim yn dymuno dringo trwy blanhigion a chloddiau pigog - yn enwedig gan y gallai’r diferyn lleiaf o waed neu ddarn bach o ddilledyn wedi ei rwygo helpu’r heddlu i’w hadnabod.

Felly beth allwch chi ei wneud i gadw eich gardd yn ddiogel? “Mae amrywiaeth o ffyrdd i drechu trosedd yn yr ardd drwy ddilyn y llwybr ecogyfeillgar,” meddai Prif Uwch-arolygydd Powys, Steve Hughson.

“Mae lladron proffesiynol yn llawn ymwybodol y gall eiddo drud a deniadol gael eu cadw mewn gerddi, megis offer garddio fel peiriannau torri lawnt a pheiriannau torri cloddiau.

Ceir hefyd llawer iawn o olew gwresogi mewn gerddi, ac y mae angen diogelu hwn.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu sylw at fanteision plannu amddiffynnol. Gall llwyni pigog fod yn ddull effeithiol ac addurniadol o atal lladron, os cânt eu plannu o amgylch eich tanc olew, er enghraifft.   

Ychwanega’r Prif Uwch-arolygydd Steve Hughson: “Dylai aelodau’r gymuned wybod fod y math hwn o drosedd yn anghyffredin iawn. Fodd bynnag, rhaid i bawb fod yn wyliadwrus wrth ddiogelu eu heiddo a riportio gweithgarwch amheus yn eu hardal. Er mwyn cefnogi hyn mae Timau Plismona Bro yn weladwy ar draws y sir ac maent ar gael i breswylwyr gysylltu â nhw ac i roi cyngor atal trosedd a chefnogaeth i breswylwyr lle bod angen.”

Mae’r cynllunydd garddio a’r ddarlledwraig enwog Lynne Allbutt hefyd yn cefnogi’r fenter. Meddai: “Rydw i’n fwy cyfarwydd â chynghori pobl ynghylch plâu mwy traddodiadol yn yr ardd. Mae’n drueni bod y math â dwy goes hefyd yn mynd i erddi’n ddiwahoddiad.

“Gwell atal na gwella, ac rydw i eisiau i bobl gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch eu gerddi drwy ddulliau syml fel peidio â chadw offer garddio drud mewn tai gwydr. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn efallai y bydd pobl yn prynu peiriant torri lawnt neu glawdd newydd, felly mae’n bwysig eu bod yn ofalus i beidio â gadael bocsys gwag y nwyddau newydd hyn y tu allan i’w tai – gan y gall hwn fod yn wahoddiad i ladron.”

Mae Lynne hefyd yn pwysleisio bod agweddau eraill yn ogystal â ‘phlannu amddiffynnol’ i gadw eich gardd yn ddiogel, ac mae’r rhain yn cynnwys:

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch plannu:

Cynghorir preswylwyr sydd ag olew gwresogi mewn tanciau i:

29/07/10 8:27