Mae Cadetiaid yr Heddlu Wedi Cyrraedd!
Dydych chi ddim yn aml yn cael cyfle i roi tro ar yr yrfa rydych chi’n meddwl ei dilyn… heblaw gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Lansiwyd Cynllun Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn swyddogol mewn seremoni yng Ngholeg Powys, y Drenewydd ar y 10fed o Fawrth.
Mae’r cynllun peilot a’r Rhaglen Hyfforddi a Datblygu dwy flynedd arloesol hon yn cynnig cyfle i oedolion ifanc 16 oed ddod yn ddinasyddion cadarnhaol a gweithgar, a hynny wrth ennill mewnwelediad gwerthfawr i yrfa yn gysylltiedig â’r Heddlu.
Yn ogystal â’r Cadetiaid newydd a’u teuluoedd, roedd boneddigion amlwg o ar draws y sir hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Roeddynt yn cynnwys Uchel Siryf Powys, David Lloyd, a’i wraig Sophia, a Maer y Drenewydd (Joy Jones) a Maer y Trallwng (Annie Holloway).
Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad yr heddlu i ddiogelu aelodau’r cyhoedd, ymgysylltu â’r gymuned a datblygiad personol.
Yn ogystal â hynny, mae ymuno â’r Cadetiaid yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, cyfrannu at weithgareddau cyffrous a heriol, a datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys sgiliau adeiladu tîm a sgiliau cyfathrebu.
Cyflwynodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Jackie Roberts, y tystysgrifau i’r Cadetiaid ac roedd wrth ei bodd i weld y bobl ifanc brwdfrydig wrth iddynt gychwyn ar fenter beilot mor gyffrous.
Meddai hwylusydd y Cynllun Cadetiaid a chyn Brif-arolygydd Cadetiaid yr Heddlu, Chris Curtis: “Mae’r cynlyn hwn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ymgysylltu’n weithredol a chyfrannu o fewn eu cymuned, ennill balchder yn eu cysylltiad â gwasanaeth yr heddlu ac â’r gymuned, a chyfle i ennill sgiliau bywyd gwerthfawr.
“Mae lefel yr ymrwymiad sy’n ofynnol gan y cynllun yn cymryd amser, egni ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr, ac rydym ond wedi cymryd y camau cyntaf petrus ond arwyddocaol tuag at hyn. Rwyf yn hynod falch fod Powys, ac yn fwy na hynny Adran y Drenewydd, wedi ei dewis i fynd a’r fenter beilot hon ymlaen ar ran yr heddlu.”
Roedd y digwyddiad yn gyfle perffaith i rieni a theuluoedd y Cadetiaid siarad â Phrif Swyddogion a gofyn unrhyw gwestiynau a oedd ganddynt ynghylch y Cynllun a Gwasanaeth yr Heddlu yn y sir.
Meddai Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau Cwsmer, y Prif Uwch-arolygydd Gwyn Thomas: “Mae’n bleser mawr gen i groesawu’r bobl ifanc hyn i Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r cynllun Cadetiaid Gwirfoddol hwn yn gyfle gwych iddynt ennill sgiliau bywyd pwysig a mewnwelediad unigryw i rôl gwasanaeth yr heddlu o fewn ei niferoedd o gymunedau gwledig amrywiol.
“Fel cyn-Gomander yr Uned Reoli Sylfaenol hon rwyf yn falch iawn bod y cynllun wedi ei beilota ym Mhowys, ac yn fy rôl newydd fel Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau Cwsmer rwyf yn edrych ymlaen, dros y 18 mis nesaf, at ddeall yn well sut y gall y cynllun hwn gynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys i ymgysylltu â phobl ifanc ac ymestyn eu cyfraniad o fewn ei gymunedau. Mae hon yn un o agweddau allweddol cydlyniad cymunedol a’r agenda canolbwyntio ar y dinesydd.
“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed am y profiadau dysgu amrywiol a sylweddol y bydd y bobl ifanc hyn yn eu profi - a’u gweld yn weledol yn chwarae eu rôl allweddol wrth ymestyn hyder ein cymunedau yng Ngwasanaeth Heddlu Dyfed-Powys.
“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff sydd wedi bod yn gysylltiedig â threfnu’r rhaglen hon ar gyfer y cadetiaid gwirfoddol dros y 12 mis diwethaf er mwyn sicrhau lansiad llwyddiannus y rhaglen arloesol hon.”
BBC News: Dyfed-Powys Police unveils 12 new police cadets
Y Cadetiaid:
- Andrew Davies
- Tanya Jarman
- Charlotte Jennings
- Rhys Jones
- Sara Jones
- Annastasia Morgan
- Jordan Morris
- Jasmine Neale
- Sam Richards
- Jonathan Roberts
- Lara Stephen
- Katie Vavere-Davies
Hafan