Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Mawrth
  5. Diogelu Siediau

Diogelu Siediau

Mae’r Heddlu yn Sir Benfro’n annog pobl i ystyried diogelwch siediau.

Yn draddodiadol mae’r heddlu’n gweld cynnydd mewn achosion o dorri i mewn i siediau yn ystod y gwanwyn.

Mae Sir Benfro Ddiogelach a’r timau plismona bro’n targedu canolfannau garddio a siopau DIY drwy gydol y mis nesaf i gynnig cyngor i gwsmeriaid ynghylch sut i ddiogelu eu siediau.

Meddai’r Prif Arolygydd Steve Matchett: “Mae siediau gardd yn aml yn dargedau hawdd i droseddwyr.

“Mae’n  ymddangos fod pobl yn anghofio gwerth yr eitemau y maen nhw’n eu cadw yn eu siediau – gall hyn weithiau fod yn filoedd o bunnoedd pan rydych chi’n ystyried beiciau, peiriannau torri lawnt ac offer garddio.

“Mae modd atal dwyn o siediau drwy gymryd camau diogelwch rhesymol.

“Rydym yn annog pobl i osod cloeon o ansawdd da ar bob sied gardd a hefyd i farcio’u heiddo gan ddefnyddio pennau uwchfioled, paent neu ysgythru.

Ystyriwch y canlynol er mwyn gwella diogelwch a lleihau eich siawns o ddioddef trosedd:

Gweler Hefyd

29/07/10 8:27