Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Newyddion ac Apeliadau
  3. 2010
  4. Gorffennaf
  5. Prif Gwnstabl yn Croesawu Ffigyrau Perfformiad – Ond yn Rhybuddio

Prif Gwnstabl yn Croesawu Ffigyrau Perfformiad – Ond yn Rhybuddio

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys wedi disgrifio’r ffigyrau perfformiad diweddaraf ar gyfer yr heddlu fel llwyddiant, ond mae e wedi rhybuddio bod amseroedd caled i ddod.

Yn siarad ar ôl i’r ystadegau gael eu rhyddhau heddiw (Dydd Iau), dywedodd Ian Arundale ei fod yn croesawu’r gostyngiad mewn lefelau troseddu a’n graddfa ddatrys cyffredinol sy’n uwch nag unman arall yng Nghymru a Lloegr - ond rhybuddiodd ynghylch disgwyliadau’r dyfodol wrth i’w Heddlu wynebu toriadau cyllid difrifol.

“Mae’r ffigyrau a ryddhawyd heddiw’n dangos bod trosedd yn ein hardal wedi gostwng 7% llynedd ac o fewn y ffigwr cyffredinol hwnnw, roedd gostyngiad o bron i un rhan o bump mewn byrgleriaeth ddomestig a throsedd cerbydau, a gostyngiad o 6% mewn troseddau treisgar. Ond fe welwn doriadau yn y gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac nid yw’r heddlu’n ddiogel rhag y toriadau hyn o bell ffordd. 

“Bydd y pwysau ar yr economi’n effeithio ar deuluoedd ar draws Cymru, ac ni fydd Dyfed Powys yn eithriad. Yn amlwg, mae yna risg y gall hyn arwain at gynnydd mewn trosedd yn genedlaethol ac yn lleol. Mae hyn yn ychwanegol at y ffaith ei bod hi’n bosib iawn y bydd rhaid i ni gwtogi ar nifer ein gweithwyr dros y tair neu bedair blynedd nesaf, ac mae’r her rydyn ni’n wynebu yn amlwg.”

Er waethaf yr amserau anodd sydd o’n blaenau ni, canmolodd Mr. Arundale y ffigyrau a ryddhawyd heddiw.

“Y peth pwysig i gofio yw bod y data nid yn unig yn adlewyrchu’r ystadegau trosedd a gofnodwyd ond barn y cyhoedd a gasglwyd trwy Arolwg Troseddu Prydain.  Er enghraifft, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei amlygu yn y cyfryngau a gan y Llywodraeth fel prif flaenoriaeth ar draws y wlad, ond dim ond 5% o’r bobl a holwyd oedd yn teimlo bod lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardal nhw, y lefel iselaf ar draws Cymru a Lloegr.”

“Bydd fy swyddogion a’m staff yn parhau i weithio gyda chi a’n partneriaid i ddarparu gwasanaeth sy’n ymatebol ac i gyrraedd disgwyliadau rhesymol. Ein nod fydd i gynnal y lefelau perfformiad rydym wedi cyflawni’n gyson mewn blynyddoedd diweddar ac rydych chi bellach yn ei ddisgwyl,” ychwanegodd.

Dywedodd Mrs Delyth Humfryes, Cadeirydd Awdurdod yr Heddlu, “Mae Awdurdod yr Heddlu’n falch iawn o’r ffigyrau perfformiad sydd wedi eu rhyddhau heddiw. Maent yn glod i bawb sy’n gweithio’n ddiflino yn yr Heddlu i ddarparu’r gwasanaeth plismona gorau posib i gyhoedd Dyfed-Powys. Byddwn ni’n gweithio’n agos â’r Prif Gwnstabl dros y misoedd nesaf i sicrhau bod perfformiad yn cael ei gynnal er waetha’r amserau heriol sydd i ddod.

Ffigyrau

Cymerwyd y ffigyrau a gyfeirir atynt o’r bwletin ystadegol blynyddol Trosedd yng Nghymru a Lloegr 2009/10: Canlyniadau Arolwg Troseddu Prydain a throseddau cofnodedig yr heddlu.

Mae’r ystadegau canlynol yn ymwneud yn benodol â pherfformiad yn ardal Dyfed Powys:

  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y lefel isaf o droseddau cofnodedig o holl Heddluoedd Cymru a Lloegr, gyda  22,377 trosedd
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y lefel isaf o droseddau fesul 1,000 poblogaeth, sef 44
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y raddfa isaf (26) o Fyrgleriaethau Domestig fesul 10,000 o gartrefi
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y raddfa isaf fesul 10,000 poblogaeth o droseddau dwyn cerbyd /cymryd cerbyd heb ganiatâd
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y raddfa isaf o bobl sy’n dioddef mwy nag un trosedd (8%) ar gyfer pob trosedd a digwyddiad (BCS)
  • Mae gan Heddlu Dyfed Powys y raddfa ddatrys uchaf o’r holl Heddluoedd, sef  48%, tra bod y cyfartaledd cenedlaethol ar draws Cymru a Lloegr yn 28%
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y canran isaf o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol canfyddedig, sef 5% (BCS)
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys ar y cyd â Heddlu Caerloyw'r canran isaf o bobl sy’n ystyried bod ymddygiad meddw a swnllyd naill ai yn broblem fawr iawn neu’n broblem weddol fawr (16%) (BCS)
  • Dywed 58% o drigolion Dyfed-Powys fod yr Heddlu yn gwneud gwaith rhagorol neu waith da.  Y ffigur cenedlaethol yw 56% a’r cyfartaledd yng Nghymru yw 52% (BCS)
  • Mae gan Heddlu Dyfed-Powys y canran uchaf o bobl sy’n cytuno bod yr Heddlu yn ymdrin â phryderon lleol (61%). Y ffigur cenedlaethol yw 56% a’r ffigur ar gyfer yr heddluoedd Cymreig yw 53% (BCS).
24/08/10 11:46