Cadetiaid Yn Cwrdd Ag Uwch Siryf Powys
28/07/10
Croesawodd Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yr Uwch Siryf newydd Jenny Thomas i babell Heddlu Dyfed-Powys yn y Sioe Frenhinol eleni.
Yn dilyn sesiwn cwrdd a chyfarch gyda’r Uwch Swyddogion, cyflwynwyd Mrs Thomas i bedwar o’r Cadetiaid a siaradodd â’r Uwch Siryf am eu cynnydd hyd yma a’u dyletswyddau ar faes y sioe.
Roedd eu hagwedd a’r modd yr oeddent yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd wedi creu argraff ar yr Uwch Siryf. Manteisiodd y Cadetiaid o’i rhagflaenydd trwy’r cynllun Trechu Trosedd, a arweiniodd at wobr o £500.
Elusen Cymdeithas Uwch Siryfion Cymru a Lloegr yw Trechu Trosedd, a’i fwriad yw annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleihau trosedd ac felly’n creu cymunedau mwy diogel. Os oes gan grŵp o bobl ifanc rhwng 5 a 25 oed syniad i wella bywyd o fewn eu cymuned, lleihau trosedd neu ofn trosedd, neu leihau’r cyfle i gyflawni trosedd, gallant wneud cais i Trechu Trosedd Powys am help i wireddu eu syniadau.
Mae Uwch Siryf Powys, Jenny Thomas, yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau Trechu Trosedd gan grwpiau ieuenctid eraill. Dywedodd: “Dyma fenter wych. Buaswn i’n annog pob grŵp ieuenctid trwy Bowys sydd angen adnoddau i lawrlwytho’r ffurflen gais trwy adran Plismona Bro gwefan Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n cefnogi pobl ifanc sydd yn cymryd rhan mewn mentrau rhagweithiol i ddatblygu eu sgiliau bywyd, bod â rhan mewn penderfyniadau sydd yn effeithio ar eu bywydau a’u galluogi i gyfrannu at les ein cymunedau.”
Trechu Trosedd
Am dros 1,000 o flynyddoedd, mae Uwch Siryfion Cymru a Lloegr wedi bod â chyfrifoldeb am gynnal cyfraith a threfn - ac er mai ychydig o’u dyletswyddau cyfreithiol ffurfiol maent yn eu cyflawni heddiw, mae Uwch Siryfion yn parhau i weithio’n agos â’r farnwriaeth, yr heddlu ac asiantaethau eraill er mwyn annog pobl ifanc i atal trosedd a chyfrannu at ofal eu cymunedau. mwy am Trechu Trosedd
Hafan