Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymgyrchoedd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill a'n partneriaethau diogelwch cymunedol i fynd i'r afael â phroblem gynyddol sef galw diwahoddiad a thwyll ar y rhyngrwyd. Rydym wedi gweld cynnydd o dros 100% yn y mathau hyn o droseddau yr adroddir amdanynt ar draws ardal yr heddlu yn 2011-12, ac amcangyfrifir y bydd tua 40% o'r holl ddioddefwyr wedi colli arian.

 

Mae'r rhyngrwyd yn rhan fawr o fywyd beunyddiol ar gyfer llawer ohonom - mae pawb boed yn hen, yn ifanc a phawb yn y canol wedi croesawu'r dechnoleg. Mae wedi gweddnewid sut yr ydym yn derbyn nifer o wasanaethau a gwybodaeth heb orfod gadael ein cartrefi - ond mae hefyd wedi'i gwneud hi'n haws i droseddwyr ein cyrraedd ni fel unigolion a'n manylion personol. Felly rhaid i ni gyd sicrhau ein bod yn cymryd rhai camau sylfaenol i amddiffyn ein hunain a'n teuluoedd rhag dod yn ddioddefwyr trosedd ar y rhyngrwyd.

 

Yr hyn i gadw golwg amdano a chyngor

 

Gall twyll ar y rhyngrwyd ddod ar sawl ffurf, ond dylech bob amser fod yn effro i 'alwyr diwahoddiad'. Gallai galwyr honni fod problem gyda'ch cyfrifiadur/rhyngrwyd neu eich bod chi wedi ennill swm sylweddol o arian - ond os nad oeddech chi'n disgwyl yr alwad peidiwch â dechrau sgwrsio â hwy, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol iddynt nac anfon unrhyw arian. Peidiwch byth â mewngofnodi i'ch cyfrifiadur o ganlyniad i alwad diwahoddiad yn honni bod gan eich cyfrifiadur firws neu firysau - eto peidiwch sgwrsio â hwy o gwbl.

 

Mae'n bosibl y bydd twyllwyr yn ceisio cyfathrebu â chi trwy negeseuon e-bost neu 'naidlenni' ar eich sgriniau. Fe allech chi dderbyn negeseuon amheus yn honni eu bod gan yr heddlu neu sefydliad arall sy'n gorfodi'r gyfraith yn honni bod eich cyfrifiadur wedi ymweld â chynnwys anghyfreithlon a bod angen talu diryw i'w ryddhau - peidiwch ag anfon unrhyw arian na rhoi unrhyw fanylion cerdyn talu. Firws yw hwn. Gofynnwch i dechnegwyr TG cymwys i ddileu'r firws a bydd hynny'n rhyddhau'ch cyfrifiadur personol. Os ydych chi wedi'ch heintio gan y firws hwn, mae mesurau diogelwch eich cyfrifiadur yn annigonol. Cofiwch ddiweddaru mesurau diogelwch eich rhyngrwyd yn rheolaidd er mwyn atal firysau fel hyn - ond cofiwch nad yw amddiffyniad gwrth-firws yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n syniad da ymchwilio i gynnyrch diogelwch y rhyngrwyd o fewn siopau cyfrifiadurol dibynadwy a darllen adolygiadau ar y cynnyrch mewn cylchgronau ac ar-lein.

 

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Aled Davies, "Rydym wedi bod yn ymwybodol o alwyr diwahoddiad a thwyll ar y rhyngrwyd ers sawl blwyddyn nawr ac wedi bod yn cyhoeddi rhybuddion a chyngor i'n preswylwyr - ond mae'r cynnydd yr ydym wedi'i weld mewn adroddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn sylweddol. Gan hynny rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill sy'n arbenigo yn y maes hwn er mwyn mynd i'r afael â hyn ac atal pobl yn ein cymunedau rhag dod yn ddioddefwyr. Rydym bob amser wedi cynghori 'os oes gennych amheuaeth, peidiwch â'u gadael i mewn' mewn perthynas â galwyr diwahoddiad wrth y drws - ac mae union yr un egwyddor yn berthnasol yma. Peidiwch â rhoi eich manylion na'ch cyfrifiadur i unrhyw un os nad oeddech chi'n eu disgwyl hwy."

 

Dywed Mrs Drew, dioddefwr o ardal Cei Newydd yng Ngheredigion, "Mae gennyf brofiad personol o'r math hwn o sgâm. Fe dderbyniais alwad yn ddirybudd un diwrnod yn dweud bod yna broblem gyda fy nghyfrifiadur ac y byddai angen i mi roi mynediad iddynt at y cyfrifiadur a thalu ffi er mwyn cywiro'r broblem. Roeddwn yn ffodus iawn bod fy merch yn digwydd bod yma gyda fi ar y pryd - ac fe ddywedodd wrthyf am beidio â gwneud unrhyw beth am y peth dros y ffôn. Roedd y dyn ar y ffôn yn swnio mor argyhoeddiadol, ac oni bai am ymyrraeth fy merch mi fyddwn wedi dilyn ei gyfarwyddiadau. Fel yr oedd hi, roedd yn rhaid i mi dalu am wiriad iechyd llawn i’r cyfrifiadur mewn siop gyfrifiadurol ddibynadwy ond mi allwn i fod wedi colli llawer yn fwy o arian. Mae'r cyfrifiadur a'r rhyngrwyd yn ddyfais werthfawr iawn yn ein cartref. Rydw i'n gwybod i beidio â sgwrsio â hwy o gwbl yn awr, a byddaf yn wyliadwrus yn y dyfodol."

 

Dywed Jamey Johnson, Pennaeth Action Fraud, "Mae sawl gwahanol fath o dwyll yn ymwneud â gwasanaeth meddalwedd cyfrifiadurol i fod yn wyliadwrus ohonynt. Mae un dull yn cynnwys galwadau ffôn 'Cefnogaeth Dechnegol' ffug, e.e. rhywun o Microsoft neu Apple yn cysylltu â chi ac yn dweud bod yna broblem gyda'ch dyfais, ac un arall yn cynnwys twyllwyr yn gofyn am wybodaeth cerdyn credyd er mwyn 'dilysu eich meddalwedd'. Mae twyllwyr yn aml yn defnyddio enwau cwmnïau adnabyddus i gyflawni eu trosedd, ac mae eu cyfathrebu â chi yn ymddangos yn fwy dilys. Mae'n bwysig trin holl alwadau ffôn digymell gydag amheuaeth a pheidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Nid yw cwmnïau cyfrifiadurol yn gwneud galwadau ffôn digymell er mwyn helpu i drwsio'ch cyfrifiadur. Mae twyllwyr yn gwneud y galwadau ffôn hyn er mwyn ceisio dwyn oddi wrthych chi a difrodi'ch cyfrifiadur gyda meddalwedd faleisus neu firysau eraill."

 

Yn ôl Stuart Aston, Prif Gynghorydd Diogelwch, Microsoft UK, "Nid yw Microsoft yn cadw cofnod o brynwyr sy'n prynu ein meddalwedd ac nid yw'n cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol am unrhyw reswm o gwbl. Peidiwch ag ymddiried yn unrhyw alwr sy'n honni ei fod o Microsoft ac angen mynediad at Gyfrifiadur Personol eich cartref. Rydym yn annog pobl i gadw'n ddiogel pan maen nhw ar-lein  ac i sicrhau bob amser bod y copi Windows y maen nhw'n ei redeg yn ddilys ac yn gwbl gyfredol. Rydym yn annog holl ddefnyddwyr Cyfrifiaduron Personol i ymweld â :http://update.microsoft.com/" href="http://update.microsoft.com/" target="_blank">http://update.microsoft.com i gadw'u Cyfrifiadur yn gyfredol â diweddariadau diogelwch a chadw at arfer diogelwch da ar y rhyngrwyd. I ddysgu mwy, ewch i :http://www.microsoft.com/en-gb/security/default.aspx" href="http://www.microsoft.com/en-gb/security/default.aspx" target="_blank">http://www.microsoft.com/en-gb/security/default.aspx.”

 

Ychwanegodd Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol Get Safe Online, “Mae'r rhyngrwyd yn adnodd hanfodol i gymaint o bobl. Eto mae'n bwysig bod yn effro a bod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhoi eich manylion personol ar-lein, i sicrhau nad ydynt yn mynd i'r dwylo anghywir. Yn y pendraw, y ffordd orau o ddiogelu eich hunan yn erbyn twyll ar-lein yw cymryd cyfrifoldeb dros eich diogelwch eich hun. Yn Get Safe Online, rydym yn ymrwymedig i gynnig cyngor i helpu pobl i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel. Gyda'r wybodaeth gywir, gallwn oll barhau i fwynhau defnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel."

 

Esboniodd llefarydd ar ran UKASH, "Nid yw'r cynnyrch Ukash wedi'i gynllunio ar gyfer taliadau rhwng unigolion; dylid ond ei ddefnyddio ar gyfer gwneud taliadau ar-lein gyda Masnachwyr Cyfranogol Ukash. Felly ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer talu am eitemau sy'n cael eu hysbysebu ar safleoedd fel Gumtree neu eBay.

"Ni ddylai unrhyw ran o'r côd taleb fyth gael ei roi dros y ffôn i unrhyw un, waeth pa mor argyhoeddiadol yw eu cynnig, er enghraifft er mwyn sicrhau benthyciad i chi neu ad-daliad ar gostau bancio neu werthu eich cyfran gyfnodol. Mae Ukash yn gweithio'r un peth ag arian parod. Mae rhoi eich côd taleb Ukash i rywun nad ydych chi'n ei adnabod, neu fasnachwr nad yw wedi'i gymeradwyo gan Ukash, yn eich rhoi wrth risg o golli eich arian. Y ffordd orau o ddiogelu eich hun rhag dioddef twyll yw bod yn ymwybodol o sgamiau a gofalu am eich taleb Ukash fel arian parod! Ni ellir gwrth-droi trafodion, felly cofiwch ddefnyddio'r côd taleb i dalu ar-lein gyda masnachwyr Cyfranogol Ukash yn unig.

 

Lledaenwch y gair - dywedwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu a sicrhewch nad ydynt yn dioddef o dwyll ar-lein.

 

Am gyngor pellach a gwybodaeth, cliciwch ar y cyswllt hwn http://bit.ly/JCQvx2 ble y bydd cysylltiadau hefyd at ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill.

Mae gwybodaeth bellach ac arweiniad ar sgamiau cyfredol hefyd ar gael gan Action Fraud ar 0300 1232040 neu ewch i www.actionfraud.police.uk

http://actionfraud.org.uk/watch-out-for-scams-that-use-microsofts-name-a...   

http://www.microsoft.com/en-gb/security/online-privacy/avoid-phone-scams.apx 

Yn ystod misoedd diweddar, bu cynnydd yn nifer y lladradau o erddi a siediau sy’n cael eu riportio yn Sir Gaerfyrddin. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn...
darllen mwy >>
Mae pobl sy’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb nawr yn medru elwa o wasanaeth newydd sydd wedi’i lansio ar draws ardal...
darllen mwy >>
HEDDLUOEDD CYMRU’N LANSIO YMGYRCH DWYN METEL “Mae’n fwy na dim ond metel, peidiwch ag edrych draw” yw’r neges bwysig gan Heddluoedd Cymru wrth iddyn...
darllen mwy >>
Mae heddlu yn Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno menter ymladd trosedd yn y flwyddyn newydd - RIPORTIWCH. Bwriad y fenter yw diogelu aelodau bregus ein...
darllen mwy >>