Beth a Wnawn I Leihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
101 logo
Er mwyn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gallu cynnig atebion effeithiol a pharhaol i broblemau gwrthgymdeithasol rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gydag asiantaethau eraill sy’n bartneriaid,
fel yr awdurdod lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, cymdeithasau tai a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Drwy ddefnyddio dulliau felly i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwn weithredu mewn ffordd ragweithiol sydd nid yn unig yn ceisio rhoi terfyn ar yr ymddygiad, ond sy’n ceisio mynd i’r afael ag unrhyw ffactorau a allai fod yn achosi’r ymddygiad yn y lle cyntaf.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig iawn, ac mae’n cynnwys hefyd fewnbwn gan y cyhoedd. Unwaith y bydd Dyfed Powys yn derbyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd, rydyn ni’n monitro’r sefyllfa’n agos, ac os bydd angen, caiff yr achos ei gyfeirio i’r cydlynydd yn yr awdurdod lleol sy’n gweithredu’n unswydd gyda materion ymddygiad gwrthgymdeithasol, a byddwn yn cysylltu â phob asiantaeth berthnasol arall.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys ynghlwm wrth y rhan fwyaf o ddigwyddiadau gwrthgymdeithasol ar ryw adeg neu’i gilydd, ond efallai nad ni fydd yr asiantaeth arweiniol. Fel arfer, yr heddlu yw’r pwynt cysylltu cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o gwynion.
Gall yr Heddlu a’r asiantaethau sy’n bartneriaid ddefnyddio gwahanol ddulliau a mesurau gorfodi. Gweler pa bwerau sydd gan yr heddlu i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.


