Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n atgoffa perchnogion tai i gloi eu siediau a’u tai allan

Simple steps can be taken to deter criminals

Fit good quality padlocks to your sheds and outbuildings

Gyda’r gaeaf ar y gorwel, mae peiriannau torri gwair ac offer garddio eraill yn cael eu cadw mewn siediau a thai allan, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn atgoffa pobl i ystyried diogelwch eu siediau, garej a thai allan.

“Mae’n bwysig bod pobl yn edrych ar wella diogelwch tai allanol lle y maent yn cadw unrhyw fath o offer a pheiriannau, yn ogystal â’u siediau,” meddai PC Rob Chapman o’r Adran Cymunedau Diogelach. “Ac mae rhai camau syml y gall pobl eu cymryd er mwyn gwella diogelwch.”

  • Gorchuddiwch unrhyw ffenestr gyda llen.
  • Gosodwch raean o gwmpas ardal y drws (anodd cerdded arno heb wneud sŵn)
  • Os yn bosibl, gosodwch fariau wrth ffenestri ar yr ochr mewnol.
  • Ystyriwch ddefnyddio bolltau mewnol ychwanegol sy’n syrthio i mewn i’r llawr ar gyfer drysau garej ‘i fyny a throsodd’.
  • Os oes gennych ddrysau pren, sicrhewch fod y colfachau a’r gosodiadau’n ddiogel.
  • Gosodwch glo clap a hasb o safon da, nid un rhad.
  • Ystyriwch osod olau diogelwch gyda synhwyrydd.
  • Ystyriwch osod larwm garej / sied. Nid oes gwifrau, a gellir ei osod mewn pum munud.
  • Clowch eich garej bob tro, a lle bo’n bosibl, cadwch y drysau ar gau.
  • Marciwch eich eiddo gyda nod diogelwch. Defnyddiwch engrafwyr neu dyllwyr i farcio EICH COD POST A’CH CYFENW AYYB.
  • Defnyddiwch binau marcio eiddo ar fathau eraill o eiddo h.y. Beiciau, Peiriannau Torri Gwair, Peiriannau Torri Gwrych, Offer Llaw, Offer Trydanol, Dodrefn Patio a Gardd ayyb.

Fe synnech at y pethau y bydd eraill yn eu dwyn os rhowch chi’r cyfle iddynt.

“Nid yw’r camau hyn yn sicrhau na fyddwch yn dioddef trosedd, ond gobeithio y byddant yn helpu,” meddai PC Chapman.

Mae taflenni’n amlygu’r pwyntiau hyn ar gael yn rhad ac am ddim o’r Adran Diogelwch Cymunedol yng ngorsaf heddlu Rhydaman. Gellir cysylltu â’r orsaf ar 1101. Hefyd, mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein gwefan www.dyfed-powys.police.uk