Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Os nad yw’n argyfwng, galwch 101

101 - when it's less urgent than 999

Call 101, when it's less urgent than 999

Mae gan yr Heddlu yng Nghymru rif hawdd i’w gofio pan fyddwch
angen siarad â nhw, ond nid oes argyfwng. 
Trwy alw 101, cewch siarad â’ch Heddlu lleol yn ddi-oed.

Felly ffoniwch 101 ar gyfer galwadau di-frys i’r
Heddlu.  Gall defnyddio 999 ar
gyfer ymholiadau cyffredinol arafu’r gwasanaeth i rywun sydd angen gwasanaeth
brys.

Ffoniwch 101 i:

  • Riportio
    trosedd neu ddifrod troseddol nad yw’n digwydd ar y pryd
  • Riportio
    mân wrthdrawiadau traffig
  • Riportio
    ymddygiad gwrthgymdeithasol lle nad oes angen ymateb brys  
  • Gysylltu
    â’ch swyddog lleol
  • Holi
    ynghylch eiddo coll neu i roi gwybodaeth i’r heddlu
  • Gael
    gwybodaeth neu gyngor
  • Siarad
    â’ch tîm plismona bro lleol