Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gorsaf Heddlu newydd i Ystradgynlais

The Opening of the new Police Station

The Opening of the new Police Station

Fel rhan o’i ymroddiad i ddiogelu’r cymunedau a wasanaethir ganddo, ail-agorodd Heddlu Dyfed-Powys yr Orsaf Heddlu yn Ystradgynlais ar 29 Hydref 2010 yn dilyn gwaith adeiladu diweddar.

Diolch i’r gwaith a wnaed mae gorsaf heddlu newydd Ystradgynlais, sydd ar bwys yr hen un, yn awr yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac fe’i hagorwyd mewn pryd ar gyfer cyfnod prysur y Gaeaf.

Yn yr agoriad swyddogol, ymunwyd â Phrif Uwch-arolygydd Powys, Steve Hughson a’r Arolygydd Andrew Pitt gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts a nifer o gynghorwyr a phwysigion lleol.

Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft dda o’r gwaith a wnaed gan Heddlu Dyfed-Powys ar draws yr ardal i sicrhau fod ei adnoddau yn adlewyrchu ymagwedd gorfforaethol y sefydliad. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymroddiad i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol a phroffesiynol a sicrhau bod ein hadeiladau yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Meddai’r Prif Uwch-arolygydd Steve Hughson: “Rwy’n awyddus i weld pob un o’n gorsafoedd ar draws y sir yn cyrraedd yr un safon uchel gan eu gwneud yn weithleoedd addas ar gyfer fy staff tra’u bod hefyd yn ateb anghenion y cyhoedd sy’n ymweld â nhw. Ystradgynlais yw’r orsaf ddiweddaraf yn rhanbarth Powys i elwa yn sgil y rhaglen foderneiddio, sydd bellach yn brawf amlwg o’n hymrwymiad parhaus i bobl yr ardal.”

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts: “Rydym yn edrych yn fanwl ar bob rhan o’n hystâd ar yr adeg hon wrth i ni wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir o ran ein heiddo i sicrhau eu bod yn gost effeithiol, yn addas i’r pwrpas ac yn hygyrch i’n cymunedau pan fydd angen.”