Page Content Starts Here
Heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad homoffobig
Maw 14 Rhag 2010
Mae heddlu Llanelli yn apelio am wybodaeth gan ffans rygbi yn dilyn digwyddiad homoffobig honedig mewn gêm ddiweddar rhwng Llanelli a Chastell Nedd ar ddydd Llun y 15fed o Dachwedd.
Honnodd Nigel Owens, dyfarnwr y gêm, bod sylw a oedd wedi ei anelu ato o natur homoffobig.
“Dywedodd Mr Owens nad yw e wedi derbyn sylwadau o’r fath yn ystod gêm o’r blaen,” meddai PC Wendy Janas. “Gwnaed y sylwadau ychydig cyn y chwiban hanner amser. Os glywodd unrhyw un rhywbeth a allai cynorthwyo’n ymchwiliadau, gofynnaf iddynt gysylltu â gorsaf heddlu Llwynhendy ar 101.”


