Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n chwilio am ladron bag

Mae’r heddlu’n chwilio am dri dyn a aeth i fyny at fenyw yn Felinfoel, ei gwthio i’r llawr, a chipio ei bag llaw.

Digwyddodd hyn oddeutu 5:30pm ddydd Sadwrn yr 22ain o Ionawr 2011. Roedd y fenyw wedi bod yn cerdded i fyny’r lôn sy’n arwain o Banteg i Pleasant View yn Felinfoel, pan aeth y dynion i fyny ati.

“Wrth lwc, ni chafodd y fenyw unrhyw ddolur yn ystod y digwyddiad hwn ac roedd hi’n medru rhoi disgrifiad da iawn i ni o’r tri dyn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Huw Davies. “Disgrifiwyd un o’r dynion fel dyn gwyn, 15 i 16 oed, 5’4” i 5’6”, o gorffolaeth ganolig gydag ysgwyddau llydan, llygaid tywyll ac aeliau trwchus, ac yn gwisgo top gwyrdd â hwd, gyda streipiau gwyn ar y llewys.

“Disgrifir yr ail ddyn fel dyn gwyn, tua 5’4”, o gorffolaeth fain gydag wyneb main, trwyn pigfain a gwefusau tenau. Roedd yn gwisgo top tywyll â hwd.

“Disgrifir y trydydd dyn fel dyn gwyn, tua 5’4”, ac roedd ef hefyd yn gwisgo top â hwd iddo.

“Mae’r heddlu wedi arestio tri dyn ar amheuaeth o ladrad ac ar hyn o bryd, maent ar fechnïaeth yr heddlu. Hoffwn apelio am unrhyw dystion a oedd yn ardaloedd Danybanc, Pleasant View a Phanteg, Felinfoel, o gwmpas yr adeg honno a allai fod wedi gweld rhywbeth i ddod ymlaen a chysylltu â CID Llanelli ar 101.”