Page Content Starts Here
Yr Heddlu’n cael eu galw i ddigwyddiad yn Camford Pressings
Gwen 07 Ion 2011
Cafodd Heddlu eu galw i ffatri Camford Pressings yn Felinfoel ar ddydd Iau Ionawr y 6ed yn dilyn adroddiadau am ddamwain yn cynnwys gweithiwr.
Cafodd dyn 38 oed ei drin gan griw ambiwlans yn y fan a’r lle cyn cael ei gludo i’r ysbyty. Fe’i rhyddhawyd yn ddiweddarach.
“Mae swyddogion heddlu wedi cynnal ymchwiliad cychwynnol cyn rhyddhau’r safle gan nad oedd y digwyddiad yn peryglu bywydau,” meddai’r Arolygydd James Davies. “Mae’r ymchwiliad hwn bellach yn nwylo’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”


