Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Chwaraewyr pêl-droed yn elwa o gymhorthdal gan yr Heddlu.

Mae Clwb Pêl-droed
Felinfoel wedi derbyn £500 o gronfa ysgogi Heddlu Dyfed-Powys. Maent wedi
defnyddio’r arian i brynu cit hyfforddi a chit diwrnod gêm newydd i’r
chwaraewyr.

Tîm bychan lleol ydynt,
ond maent yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned. Oherwydd hyn, roedd y
swyddog lleol, PC Steve Kettle, yn teimlo eu bod yn haeddu’r arian.

“Mae aelodau clwb pêl droed Felinfoel yn gefnogol
o’u hardal leol, ac yn gysylltiedig â nifer o brosiectau gyda ‘Cymunedau’n
Gyntaf’ Felinfoel,” meddai. “Bydd yr arian hwn, sydd wedi talu am git hyfforddi
a chit diwrnod gêm i’r clwb, yn hwb i broffesiynoldeb a hunan barch yr aelodau.

“Dyma un o’r ffyrdd y mae’r heddlu gobeithio annog
cysylltiadau cymunedol cadarnhaol, ac mae rhai o’r chwaraewyr wedi dangos
diddordeb mewn ymuno â’n cynllun Gwarchod Cymdogaeth lleol hyd yn oed.” 

“Dymuna clwb pêl-droed Felinfoel ddiolch
i PC Steve Kettle am ei ymdrechion wrth iddo gael noddwyr i’n crysau diwrnod
gêm,” meddai Neil Davies o’r clwb. “Byddwn ni’n eu gwisgo â balchder yn ystod y
gemau bob wythnos.

“Clwb pentref bach ydym, ac rydym yn
ddiolchgar iawn am unrhyw nawdd a all ein helpu i redeg y clwb a’i wneud yn fwy
effeithiol a phroffesiynol. Roedd hwn yn rhodd eithriadol o ddefnyddiol, a
dweud y lleiaf.”

Daw’r arian o gronfa ysgogi’r heddlu. O dan y cynllun hwn, mae arian a atafaelwyd wrth droseddwyr gan swyddogion
yn cael ei ail-fuddsoddi er budd cymunedau lleol.