Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dedfryd Achos o Gam-drin Plant yng Nghydweli

“Roedd yr achos yn un hir a chymhleth, yn cynnwys grŵp cyfrinachgar
iawn,” meddai’r Prif Arolygydd Richard Lewis. “Dioddefodd plant
gamdriniaeth systematig am gyfnod maith yn cynnwys nifer cyfyngedig o
gamdrinwyr.

“Gwyddwn na effeithiodd yr achos hwn ar y gymuned ehangach, ond
rydym yn cydnabod y boen a oddefwyd gan y dioddefwyr dros y blynyddoedd.
Dangoswyd dewrder mawr wrth iddynt ddod ymlaen i’w riportio.”

“Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y medrwn ni i ymdrin â
throseddwyr sy’n cam-drin plant, a byddwn i’n annog unrhyw un sydd wedi
eu cam-drin mewn unrhyw ffordd i ddod ymlaen a dweud wrthym. Rydym yn
addo gwrando arnynt ac ymdrin â’u pryderon mewn modd sensitif a, lle
bo’n addas, cynnal ymchwiliad trylwyr.”

“Rydym yn ddiolchgar i’r asiantaethau partner sydd wedi gweithio
gyda ni trwy’r ymchwiliad,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Mark
Bergmanski. “Mae ein ffocws nawr ar y dioddefwyr, ac rwy’n gobeithio
bydd y canlyniad hwn yn dod â’r hunllef hon i ben.

“Bu hyn yn ofidus iawn i’r dioddefwyr, a hefyd i’r swyddogion sydd wedi eu cefnogi trwy’r broses hon.”