Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dedfryd Achos o Gam-drin Plant yng Nghydweli - Statements

Ditectif Brif Arolygydd Mark Bergmanski

Rydym yn croesawu dedfrydau heddiw. Maent yn adlewyrchu difrifoldeb
y troseddau. Mae ein meddyliau ni gyda’r dioddefwyr, a gobeithiwn y
gallant symud ymlaen â’u bywydau.

Y Dioddefwyr

Rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi’n helpu trwy’r profiad caled hwn, gan gynnwys teulu, ffrindiau a’r tîm ymchwilio.

Ar y cyfan, rydym yn hapus â’r dedfrydau a roddwyd heddiw. Bu’n
daith hunllefus i bob un ohonom, ond gobeithiwn y bydd hyn yn ddechrau
newydd i ni.

Rydym wedi dioddef yn ofnadwy, a’r cyfan rydym eisiau gwneud yw symud ymlaen â’n bywydau.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud wrth unrhyw un arall a allai fod
wedi dioddef rhywbeth tebyg i hyn am fod digon dewr i’w riportio, boed
hynny wrth aelod o’r teulu, ffrind, neu’r heddlu.

Peidiwch â bod ofn a pheidiwch â dioddef ar ben eich hun.