Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Mae’n ‘20’ am reswm!

Using the speed camera at Penrhos

Using the speed camera in Penrhos

Bu plant Ysgol Gynradd Penrhos, Ystradgynlais, yn cymryd rhan mewn
menter lleihau cyflymder fel rhan o ymdrech gydweithredol rhwng Heddlu
Dyfed-Powys a Chyngor Sir Powys. 

Rhoddodd PC Craig Morgan, PCSO Dan Garnell a PCSO Zara Simisker
wers i ddisgyblion blwyddyn chwech
ynghylch peryglon goryrru – i yrwyr a cherddwyr fel ei gilydd.

Yna dechreuodd yr hwyl wrth iddynt gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn
arddangosiad rhyngweithiol yn ymwneud â phellteroedd stopio. Aed a’r plant i’r
clos chwarae a gofynnwyd iddynt osod côn i ddynodi beth yn eu barn hwy oedd y
pellter stopio ar gyfer cerbyd sy’n teithio 30 milltir yr awr ac yna 20 milltir
yr awr.

Cawsant eu rhannu’n grwpiau, ac roedd y disgyblion a ddyfalodd y pellter
i gyd yn anghywir. Credant fod y pellter stopio ar gyfer cerbyd sy’n teithio 30mya
yn llai na 23 medr, sef y pellter cywir, ac sy’n ddigon i achosi damwain
angheuol. Yna, pan ofynnwyd iddynt ddyfalu pellter stopio cerbyd sy’n teithio
ar gyflymder o 20mya, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn credu ei fod yn fwy na 12
metr, sef y pellter cywir, gan ddangos yn glir arwyddocâd y cyfyngiad cyflymder
hwn ger ysgolion. 

Ar ôl y gêm hon aed â’r disgyblion y tu allan i gât yr ysgol a chafodd
pob un yn ei dro gyfle i ddefnyddio’r Gwn Cyflymder i fesur a oedd modurwyr yn
cadw at y cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr.

Dywedodd PCSO Dan Garnell, “Wrth lwc, nifer bychan iawn a gafodd eu dal
yn torri’r cyfyngiad cyflymder, felly nid oedd rhaid i’r disgyblion cael gair
bach tawel yng nghlust llawer o yrwyr! Roedd môr o siacedi melyn i’w gweld, a
allai fod wedi dylanwadu ar fodurwyr. Dangosai hyn fod amlygrwydd yn ffordd
effeithiol o arafu gyrwyr.”

Ar ôl yr ymarfer hwnnw, rhoddwyd taflenni i’r plant wrth ‘Cymunedau’n
Gyntaf’. Gofynnwyd iddynt fynd adref â’r taflenni a thrafod yr hyn a wnaethant
gyda’u rhieni er mwyn sicrhau fod y neges yn cael ei throsglwyddo.

Ychwanegodd Nichola Davies, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Powys,
“Roedd y gweithdy’n llwyddiannus dros ben, ac roedd y plant yn meddwl ac yn
dysgu am y peryglon sy’n gysylltiedig â goryrru. Rwy’n ffyddiog y byddant yn
llysgenhadon brwdfrydig yn y dyfodol, ac y gwnânt godi ymwybyddiaeth y cyhoedd
ynghylch Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Cyflymder.”