Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n ymchwilio i achos posib o losgi bwriadol yng Nghanolfan Gymunedol Llwynhendy

Mae’r Heddlu’n cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiad am dân yn nrws cefn Canolfan Gymunedol  Llwynhendy yn ystod yr oriau mân ar fore Sul y 1af Mai 2011.

Derbyniwyd galwad am oddeutu 4am, a daeth y swyddogion o hyd i dân wrth waelod drws allanol a oedd yn ôl pob tebyg wedi ei gynnau gan ddefnyddio papur.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth all ein helpu i ddal y rhai oedd yn gyfrifol, gofynnir i chi gysylltu â ni yng Ngorsaf Heddlu Llwynhendy drwy ffonio 101,” meddai PCSO Tom Edwards. “Mae hon yn ganolfan boblogaidd iawn ac mae’r tân hwn eisoes wedi tarfu ar y feithrinfa, sydd wedi cael ei chanslo heddiw. Mae’n siomedig iawn bod rhywun wedi gwneud hyn: mae gweithred fel  hon yn cael effaith andwyol ar y gymuned gyfan.”