Page Content Starts Here
Digwyddiad ym Mrynhyfryd, Llangennech
Llun 27 Meh 2011
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi ymdrin â digwyddiad ym Mrynhyfryd, Llangennech heddiw.
Aeth swyddogion arfog i’r ardal mewn cysylltiad ag ymchwiliad i drosedd ddifrifol a ddigwyddodd yn gynharach yn y dydd mewn lleoliad arall.
Cafodd yr ardal ei hamgylchynu er mwyn hwyluso ymchwiliadau’r swyddogion a diolchwn i aelodau’r cyhoedd am eu hamynedd a’u cydweithrediad.
“Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r drosedd uchod,” meddai’r Arolygydd James Davies. “Mae’n bosib bod rhai o drigolion Brynhyfryd wedi dioddef peth aflonyddwch, ac ymddiheurwn am hynny. Fodd bynnag. roedd yn hanfodol, er lles pawb, ein bod yn delio â’r digwyddiad yn y modd mwyaf diogel posib.
“Mae’r dyn yn awr yn y ddalfa yn disgwyl cael ei holi.”


