Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd o 15 mlynedd a roddwyd i Ronald Steven Toms am achos o drais a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd o 15 mlynedd a roddwyd i Ronald Steven Toms am achos o drais a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl.

Arestiwyd y dyn 51 oed ym mis Mawrth am dreisio mewnyw 84 oed, ymosod yn rhywiol arni, a dwyn oddi wrthi.

"Dyma ganlyniad ardderchog i’r heddlu, ac mae’n dangos yn glir ein bod ni byth yn cau achos,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Andy Williams. "Arestiwyd Toms ar ddechrau’r flwyddyn mewn cysylltiad â mater arall. Fel mater o drefn, cymerwyd sampl DNA wrtho a’i roi yn y system. 

"Gwelsom yn syth ei fod yn cyfateb â phroffil DNA mewn achos oer a oedd wedi bod ar ein llyfrau ers 24 blynedd. Mae’n rhyfeddol, ac yn dyst i ddiwydrwydd y swyddogion hynny a oedd yn gysylltiedig â’r achos gwreiddiol a sicrhaodd y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gennym i ddatrys yr achos bron chwarter canrif yn ddiweddarach.

"Mae’r teulu wedi byw gyda hyn ers amser hir. Yn amlwg, roedd yn brofiad erchyll i’r dioddefydd, ond effeithiwyd ar aelodau eraill o’r teulu hefyd. Rwy’n gobeithio eu bod nhw nawr yn medru cael rhywfaint o gysur o’r ffaith bod y dyn hwn wedi ei ddwyn i gyfiawnder.”

Daw’r achos hwn fis yn unig ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys gau achos oer arall. Dedfrydwyd John Cooper i garchar am oes ym mis Mai ar ôl iddo ei gael yn euog o ddwy lofruddiaeth ddwbl, trais, ymosodiad rhywiol a lladrad.