Page Content Starts Here
Heddlu’n apelio am dystion yn dilyn damwain angheuol
Llun 15 Awst 2011
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i ddamwain traffig y ffyrdd a arweiniodd at farwolaeth un o’r gyrwyr.
Digwyddodd y ddamwain ar yr A4067 rhwng Ystradgynlais ac Abercraf am 1.50pm ddydd Gwener y 15fed o Orffennaf. Roedd tri cherbyd yn gysylltiedig â’r ddamwain – Renault Scenic lliw arian, Suzuki Swift gwyn a Skoda Fabia arian.
“Deuddydd wedi’r ddamwain, bu farw David Hughes, 78 oed, a oedd y teithiwr yn sedd flaen y Renault Scenic,” meddai’r Sarjant Huw Thomas. “Os welodd unrhyw un y ddamwain hon, gofynnaf iddynt gysylltu â’r heddlu yn Aberhonddu ar 101 er mwyn ein helpu gyda’n hymchwiliadau wrth inni geisio darganfod yn union beth ddigwyddodd.”


