Heddlu’n atgoffa gyrwyr i beidio â gadael nwyddau gwerthfawr yn eu cerbydau.
Mae cyfres o ladradau o gerbydau yn ardal Rhydaman wedi arwain swyddogion i rybuddio gyrwyr i beidio â chadw nwyddau gwerthfawr yn eu cerbydau.
Cyflawnwyd tair trosedd dros nos yn Rhydaman a Glanaman rhwng y 25ain a’r 26ain o Awst.
“Mae troseddwyr wedi malu ffenestri cerbydau i gael mynediad, ac unwaith eto, gadawyd eitemau gwerthfawr yn y cerbydau,” meddai PC Rob Chapman. “Yn eu mysg oedd waledi, arian, pasbortau, a hyd yn oed offer.
“Er ein bod ni’n byw mewn man diogel, mae’n bwysig fod gyrwyr yn wyliadwrus. Yn ogystal â chloi eu cerbydau, dylent fynd â’u nwyddau gwerthfawr oddi yno.”
Gall unrhyw un sydd eisiau cyngor pellach ynghylch atal trosedd ymweld â’n gwefan www.dyfed-powys.police.uk neu siarad â’r adran diogelwch cymunedol drwy alw 101.


