Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Diweddariad ynghylch damwain angheuol yn Llanwrda

Gall Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod dyn wedi marw ar ôl i deiar diwydiannol ffrwydro dan bwyso, ac nid o ffrwydrad nwy fel yr adroddwyd yn y cyfryngau.

Galwyd swyddogion i ddigwyddiad ym Mhumsaint, Llanwrda am oddeutu 9:35am ar ddydd Mercher 28 Medi.

Roedd y dyn a fu farw yn ei dridegau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gan fod y digwyddiad yn gysylltiedig â’r gweithle, er nad oes unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad ac nid oes perygl i aelodau eraill o’r cyhoedd.  

Hysbyswyd y Crwner, ac mae ymchwiliad yn parhau i’r ddamwain drasig hon.