Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n arestio merch yn ei harddegau mewn cysylltiad â difrod troseddol yng Ngarnant.

Mae’r heddlu wedi arestio merch 14 oed yn dilyn sawl achos o ddifrod troseddol ym mhentref Garnant.

Mae hi’n parhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae hyn yn dilyn difrod i loches ym Mharc Garnant ym mis Awst.

“Mae ymchwiliadau’n parhau i’r digwyddiad hwn,” meddai PC Stephen Morris. “Yn y cyfamser, bydd patrolau amlwg yn parhau yn yr ardal, ac mae gweithwyr ieuenctid lleol yn bwriadu ymgysylltu â’r bobl ifanc lleol.”

Mae swyddogion hefyd yn ymchwilio ar ôl i ddwy ffenestr blwm cael eu dwyn o gyntedd Eglwys Crist yn Nhwyn ger Rhydaman. Digwyddodd y lladrad rhywbryd rhwng 2pm ar ddydd Gwener y 9fed o Fedi ac 11.15am ar ddydd Sadwrn y 10fed o Fedi.

Aed â’r ffenestri diwrnod yn unig ar ôl iddynt gael eu gosod, gan olygu nad oedd y sment a oedd yn eu dal wedi caledi’n llwyr.

Gofynnir i unrhyw un sydd â manylion am y drosedd hon gysylltu â PC Morris yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ar 101.