Heddlu’n ymchwilio i achos o dyfu canabis ym Mhorth Tywyn
Mae’r heddlu wedi cychwyn ymchwiliad ar ôl darganfod ffatri ganabis mewn eiddo wedi’i rhentu yn Nheras Springfield, Porth Tywyn.
Aeth swyddogion i’r tŷ ar ôl i landlord cyfagos eu ffonio i gwyno ynghylch gorlif yn yr eiddo.
Wrth chwilio’r tŷ, daethpwyd o hyd i 400 o blanhigion canabis.
“Mae ymchwiliadau’n parhau ar hyn o bryd i geisio dod o hyd i’r un sydd wedi bod yn rhentu’r eiddo hwn,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gary Phillips. “Ond mae’n werth atgoffa landlordiaid i wirio pwy yw’r bobl y maent yn rhentu eu heiddo iddynt.
“Gall tyfu canabis achosi difrod i adeiledd a thrydanwaith adeiladau. Mae maint yr ymyrraeth yn creu risg sylweddol o dân, felly mae’n werth i landlordiaid dalu sylw i ychydig o ganllawiau syml.
“Gall ffatrïoedd canabis cael eu gosod am dymor byr neu am dymor hir, a chyn hir, bydd yr hyn sy’n edrych fel teulu bach yn newid i fod yn unigolyn sy’n byw ar ben ei hun.
“Bydd diffyg trefn, felly ni fydd plant na phobl sy’n gweithio, ac ni fydd amserau penodol lle y mae pobl yn mynd a dod. Yn hytrach, fel arfer, bydd dyn ar ei ben ei hun a fydd braidd byth yn gadael yr eiddo.
“Efallai y bydd synau trydanol rheolaidd, megis moduron tawel neu eneradur bychan, yn dod o’r cyfeiriad, ac efallai y sylwch ar wahanol arogleuon yn dod o’r ardal o gwmpas yr eiddo.
“Bydd y rhan fwyaf o lenni yn yr eiddo ar gau o hyd, ac efallai y bydd rhai ffenestri ar agor yn gyson, hyd yn oed mewn tywydd oer.
“Peth arall i fod yn wyliadwrus yn ei gylch yw taliadau rhent rheolaidd mewn arian parod.
“Os oes gennych amheuon, cysylltwch â’r heddlu ar 101.”


