Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Achosion o ddwyn defaid ym Mhowys yn arwain at rybudd

Er yn un o’r siroedd diogelaf yn y wlad, mae sawl achos o ddwyn defaid ar draws Sir Faesyfed wedi arwain at yr heddlu’n cynyddu eu patrolau a defnyddio technolegau newydd megis SMARTWATER a systemau awtomatig adnabod rhifau ceir er mwyn dod o hyd i droseddwyr.

Mae symudiadau pob anifail yn cael eu rheoleiddio a bydd yr heddlu’n gwirio dogfennau symud anifeiliaid fel rhan o’r patrolau hyn.

Ers mis Mehefin, bu chwe achos gwahanol o ddwyn defaid, gyda chyfanswm o 310 yn cael eu dwyn yn ardaloedd Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt gan arwain at golli gwerth miloedd o bunnoedd mewn stoc.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am achosion o ddwyn defaid, gallant gysylltu â ni yn Llandrindod ar 101,” meddai Ailsa Lawton, swyddog bro. “Rydym angen i bawb yn y sir fod yn wyliadwrus a riportio unrhyw beth sydd yn ymddangos yn amheus iddynt.”

Hefyd, mae cynlluniau Gwarchod Ffermydd yn cael eu gweithredu ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o fanylion ynghylch sut i fod yn rhan o gynllun o’r fath, galwch 101 a gofynnwch am eich tîm plismona bro, neu anfonwch e-bost at ContactCentre@Dyfed-Powys.pnn.police.uk

I gael rhagor o wybodaeth am drosedd yn eich ardal chi, ewch i www.police.uk neu galwch heibio i wefan Heddlu Dyfed-Powys ar  www.dyfed-powys.police.uk