Arestio tri dyn ar ôl i fenyw gael ei hanafu mewn digwyddiad trefn gyhoeddus yn Llanymddyfri
Yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Sul 19 Tachwedd 2011, galwyd yr heddlu i ffrae fawr yng nghlwb rygbi Llanymddyfri.
Mewn parti yn y clwb, trawyd menyw 19 oed yn ei hwyneb â gwydr gan ddyn nad oedd yn ei adnabod. Dioddefodd anafiadau sylweddol.
“Aed â’r fenyw ifanc i Ysbyty Treforys i gael triniaeth arbenigol i’w hanafiadau,” meddai’r Ditectif Arolygydd Steve Cockwell. “Arweiniodd y digwyddiad at ymyrraeth gan nifer o bobl, a bu ffrae fawr. Hefyd, difrodwyd dau gerbyd heddlu yn ystod yr anhrefn.”
“Derbyniodd y dyn 34 oed sy’n cael ei amau o ymosod â gwydr fân anafiadau hefyd, ac aed ag ef i’r ysbyty. Fe’i rhyddhawyd yn syth ar ôl derbyn triniaeth. Yn ddiweddarach, fe’i harestiwyd ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol. Cafodd ei ryddhau’n hwyrach ar fechnïaeth yr heddlu.”
“Arestiwyd dyn arall, 23 oed, am ymosod arno ac achosi difrod troseddol i gerbyd heddlu. Fe’i rhyddhawyd ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.”
“Cafodd trydydd dyn, 20 oed, hefyd ei arestio a’i rybuddio am achosi difrod troseddol i gerbyd heddlu.”


